Yn y blynyddoedd hyn arferai aelodau Cangen Coleg y Brifysgol ym Mangor fynd oddi amgylch i werthu Y Ddraig Goch a phamffledi'r Blaid ar y strydoedd yn nhrefi a phentrefi Môn a Arfon; lleoedd iawn am farchnad oedd Caernarfon, Llangefni ac Amlwch ar nos Sadwrn.
Yn naturiol, gofalai teuluoedd y Rhos fod eu merched yn cael copi o'r Rhos Herald; yn nhrefi mawr Lloegr yr oedd merched y Rhos yn golofnau yn yr eglwysi Cymraeg, ac yr oedd cynnwys yr Herald yn gymaint, onid mwy, o destun eu hymgom a'r bregeth.