Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nhrefn

nhrefn

Rhifwch y nodau hyn yn nhrefn eich blaenoriaeth.

Yr wythnos hon bydd yn rhaid i ti roi pethau yn nhrefn eu pwysigrwydd.

Y genhedlaeth ifanc yng Nghymru fel yn yr Unol Daleithiau sy'n gweithredu o ddifrif, mewn ffordd gostus iddyn nhw eu hunain, i orseddu gwerthoedd uwch yn nhrefn ein cymdeithas; cilwgu arnynt gydag ychydig eithriadau a wna'r canol oed parchus sy'n proffesu ymlyniad wrth yr un gwerthoedd.

Ar ben hynny, un ymhlith sawl cyfeillach oedd hon a rhyngddynt yr oeddent yn dechrau hybu cyfnewidiadau yn nhrefn gwasanaethau'r eglwysi a oedd yn groes i ofynion y Llyfr Gweddi Gyffredin.

Yr oedd eraill yn fwy tanbaid ac eisiau gweld cryn newid yn nhrefn llywodraeth yr Eglwys, efallai hyd yn oed cael gwared â'r drefn esgobyddol.

Y mae'n ddiamau fod y gred yn nhrefn Duw a'i allu byd-eang yn cynnwys y syniad o le a chyfraniad pob cenedl; ond dylid gwahaniaethu rhwng hyn â syniad cwbl wahanol yr Hen Destament am etholedigaeth Israel fel pobl Dduw a phlant y cyfamod.

Cymerodd ofal i ddewis yr un nifer o bobl o'r tair urdd uchaf yn nhrefn yr Eglwys, hynny yw, yr offeiriadaeth, y ddiaconiaeth a'r is-ddiaconiaeth.