Yn yr un cyfnod, aeth Morris Williams, perchen Gwasg Gee ers rhyw flwyddyn ar y pryd, yn aelod o gyngor Bwrdeistref Dinbych; a gallodd roi gwybod am ei lwyddiant i'r Tri yn eu carchar, drwy lunio stori fer am lwyddiant y Blaid Ddirwestol mewn etholiad yn Nhretomos (Tomos Gee, wrth gwrs) a'i hanfon i'r Eisteddfod Genedlaethol i'w beirniadu gan DJ Williams, yntau wedi cael caniatâd yr awdurdodau i feirniadu o'r carchar.