Yr oedd mawr angen am wneud hynny, yn nhyb Llwyd a'i gyd-Gymry gwlatgar, oherwydd yr ymosod o'r newydd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ar wirionedd yr hanes gan Williams Camden a'r Eidalwr Polydore Vergil yn arbennig.
Gellid gwrthod cyflogi rhywun os oedd perygl, yn nhyb yr awdurdodau, y byddai'r person hwnnw yn ymgymryd â gweithgareddau gwrth-gyfansoddiadol yn y dyfodol.
Nid oes angen dweud mai'r cam cyntaf tuag at sylweddoli'r amcanion hyn, yn nhyb Sinn Fe/ in, yw gorfodi'r llywodraeth Brydeinig i derfynu ei hymyrraeth ym mywyd Iwerddon.
Tybed ai Sam a etifeddodd ei fantell yn nhyb ei gydwladwyr?
Yn nhyb aelodau'r Blaid, rhyfel rhwng y pwerau mawrion oedd hwn, a chredent fod gan Gymru yr hawl i beidio ag ymladd.
Pan ddywed rhywun y geiriau "Llên Gwerin", fel arfer, fe aiff ein meddyliau i gyfeiriad ers talwm: daw i gof hen chwedlau, hen ddywediadau a hen gredoau, a teg yw dweud hefyd, yn nhyb y mwyafrif llethol o bobl, mai perthyn i'r gorffennol mae pethau llên gwerin hefyd, sef coblynod, tylwyth teg, cewri ac yn y blaen.
"Dychymmygion penboeth a gorwyllt" oeddynt yn nhyb golygydd yr Haul, "rhuthriadau esgeler", "cableddau didor a ddywedir yn erbyn urddas".
Yn nhyb llawer, hwn yw'r mewnwr gorau yn y wlad, ond gorddweud yw hynny: gall amrywio'i chwarae cystal - rhedeg pasio a chicio, ac mai ei gic ef i'r gornel a barodd y trafferth i Gastell Nedd pan sgoriodd Andrew Morgan drydydd cais Llanelli.