Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nhymor

nhymor

Yn nhymor yr ŵyn gwelid mynaich lleyg Abaty Aberconwy yn yr hafotai hwnt ac yma, a draw tua Moel Fleiddiau a Moel Cibau yr oedd sŵn corn yr helwyr yn darogan fod rhyw newydd yn y tir.

Yn anffodus mae'r cyfan yn pwyso ar felltith cyflogaeth tymor penodol a'r ffaith bod fy nghytundeb i yn y gwaith yn dod i ben flwyddyn i fis Ebrill a mod i'n awyddus i drio canolbwyntio ar ambell i beth dwi heb ei gyflawni cyn bod fy nhymor i yn y swydd honno yn dod i ben.

Petai'r cynnig yn llwyddo, byddai'r tîm newydd yn dechrau cystadlu yn nhymor 2002/2003.

Ac er i Newman wadu wrth Esgob Rhydychen mai mynachlog ydoedd, wrth i'r amser gerdded a dynion ifainc yn dod yno i aros, ymdebygai bywyd Littlemore yn fwyfwy i fywyd sefydliad Pabyddol, gyda phwyslais neilltuol ar ddisgyblaeth a llymder personol, yn enwedig yn nhymor y Grawys.

Yn ystod fy nhymor yn fyfyriwr yn y Brigysgol yng Nhaerdydd, yn athro yn Nhonyrefail ac ym Mhenbre, Llanelli ac yn ddiweddarach yn Arolygydd Ysgolion ei Mawrhydi yn y Rhondda y cefais wir gyfle i hel y ffeithiau a hynny oddi ar berthnasau pell ac agos ac o archifdai, llyfrgelloedd a cherrig beddau, a bu'r wybodaeth yn gaffaeliaid ac yn iechyd i'm meddwl a'm hysbryd.