Ond er 'gyrru'r eryr i Gymru', ni chafodd y bardd ddychwelyd o Facedonia i droedio eto Barlwr y Glyn nac 'ardal hyfryd Rhyd Lefrith' yn Ninmael, ger ei gartref.
Ac allan yn y fan honno, mynegais fy mod mewn tipyn o ddilema am na wyddwn yn iawn beth y dylwn ei wneud, p'run ai brysio adre'n syth at fy nheulu yn Ninmael, ai ynteu aros yn y llofft am sbel eto rhag ofn y byddai Mam yn dadebru o'i thrymgwsg.