Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nis

nis

Plaid fechan ac ifanc - "eithr gwyr trugarog oedd y rhai hyn, cyfiawnder y rhai nis anghofiwyd".

Etyb Iorwerth gan wrthgyhuddo: deil fod Sion yn torri gwyliau (yr hyn nis gwnai ef), ei fod yn gelwyddog ac yn canu'n unig er tal: 'Ni thry'r min eithr er mwnai'.

Nis derbynnid gan y cyfundrefnau cynnar clasurol gan na Groegiaid na Chymry.

Nis gwn.

Nis peth anghyffredin oedd boddi gwrachod.

Teitl llawn Stori Sam yw--"Stori Sam am yr hyn nis gwelodd neb erioed ond ef ei hun", a'r disgrifiad cyntaf o Sam a gawn yn y llyfr yw "Yr oedd yn wahanol iddynt oll" (i weddill y teulu) (t.

Neidiai ar ei draed a cheisiai wthio'r muriau yn eu hôl i'w lle, ond nis gallai.

Nis gwelir fel rhywbeth hanfodol gynhenid yn y ddynoliaeth, yn halogiad meidrol, ond fel rhywbeth a amlygid mewn troseddau moesol megis anghyfiawnder,anonestrwydd, gorthrwm, trais a chreulondeb.

Gwnaf farn â thi yng ngŵydd y cenhedloedd; oherwydd dy holl ffieidd-dra gwnaf i ti yr hyn nas gwneuthum erioed ac nis gwnaf eto.

Nis gwelswn ers tro byd, a lled ofnwn fod rhyw aflwydd wedi ei oddiwes.

Ond nis gwahoddwyd i'r cysegr, a safodd yno'n hir ac ansicr gan syllu'n ofnus ar y gair 'Golygydd' o'i flaen.

Nis gwn pam, ond rhyfedd mor amharod fyddai'r seiri coed i gyflawni eu haddewidion.

Nis gallaf wneud fy meddwl i fyny i fynd yn ôl eto i Gymru y flwyddyn yma.

Nis gwelodd erioed gan iddi farw yn ystod ystorm ei geni.

Ond nis cydnabyddid felly bellach gan benaethiaid y colegau.

Ychydig iawn o gwsg a gefais y noson honno, wedi'r cwbwl, nis gwyddwn oedd Mr Bates hyd yn oed yn Dori!

Nis oeddwn i symud yr un llyfr oddi yno, meddai â'i wynt yn ei ddwrn.