Mae ymosodwr Yr Iseldiroedd, Ruud Van Nistelrooy, yn debygol o symud i Manchester United o PSV Eindhoven yn ystod y dyddiau nesaf.
Mae prawf meddygol gafodd Van Nistelrooy ym Manceinion dros y Sul wedi profi ei fod wedi gwella'n llwyr o'r anaf i'w benglîn a'i rhwystrodd rhag ymuno â Manchester United am £18.5 miliwn y llynedd.
Mae hyfforddwr PSV Eindhoven, Eric Gerets, wedi galw ar reolwr Manchester United, Syr Alex Ferguson, i benderfynu ydy o eisiau arwyddo ymosodwr PSV, Ruud van Nistelrooy, ai peidio.