Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

niwclear

niwclear

Mae awduron yn y ddwy iaith yn poeni am yr un gofalon, boed y rheini'n gymdeithasol (fel diweithdra), yn fyd-eang (fel pryder niwclear), neu'n bersonol (fel plant yn tyfu i oed).

Golygai'r cytundeb `INF' y byddai taflegrau niwclear canolig yn cael eu dileu, gan gynnwys y rhai oedd wedi bod yn destun protest cyhyd yng Nghomin Greenham.

Yn ôl "arbenigwyr" y diwydiant niwclear, nid yw defnyddio ymbelydredd i greu trydan yn fwy peryglus na gwneud taffi triog.

I egluro'n fwy manwl y defnydd yma o radio-isotopau gadewch i ni ystyriad y cemegyn a ddefnyddiwyd fwyaf yn nyddiau cynnar meddygaeth niwclear - ffurf ymbelydrol o iodin (I), sef radio-iodin.

Mae pynciau teuluol yn amlwg iawn, pethau fel geni a marw, profiadau crefyddol personol, y bygwth niwclear, - a'r cwbwl wedi eu lleoli'n gadarn yng nghynefin yr awdur ei hun.

'Roedd y ddamwain fawr niwclear, a gafodd y fath effaith ar Gymru, wedi digwydd.

Datblygiad meddygaeth niwclear.

Cofiwch, efallai mai cael mwy o orsafoedd trydan bychan fel hon yw rhan o'r ateb i broblem cyflenwi ynni rhagor nac ynni niwclear.

Yr hyn a symbylodd Anweledig i gynhyrchu Gweld y Llun oedd rhywbeth ddywedodd y comedïwr Billy Connoly yn un o'i sioeau yn y Neuadd Albert yn Llundain - roedd o'n dychanu'r llywodraeth am wastraffu arian ar arfau niwclear.

Weithiau fel yn Reykjavik fe ddaw si o'r cyfarfodydd fod bargen anhygoel ar fin ei tharo, sef y byddai'r ddwy wlad yn cytuno i gael gwared ar arfau niwclear o bob lliw a llun o fewn deng mlynedd.

Meddygaeth Niwclear.

Gyda'r holl sylw a roddir ar y cyfryngau i belydriad niwclear a'i effeithiau niwediol, hawdd iawn fyddai casglu mai dim ond gweithio yn erbyn parhad dynoliaeth a wna.