Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

niwed

niwed

Gallai'r ysgub, meddai'r gwiddon fod yn 'beryglus yn y dwylo anghywir oherwydd y nerth sydd ynddi.' Ymddengys i'r helynt achosi cryn bryder i rai o drigolion y pentref a dywedir bod ambell un wedi mynd cyn belled â gosod y Beibl yn ffenestri eu cartrefi er mwyn dadwneud unrhyw niwed.

Dywed cynllunydd y fath wiriondeb nad yw hyn yn achosi unrhyw niwed na phoen i'r pryfetyn.

Ni allaf weld chwaith y gwnai rhew niwed i blanhigion glaswellt, mae defaid yn pori trwy'r gaeaf nes bydd arwynebedd y borfa yn llwm iawn, hynny yw, wedi torri'r glaswellt yn agos iawn i wyneb y pridd ond heb ei niweidio ar gyfer porfa'r tymor dilynol.

Yn ôl rhai adroddiadau, gall OP achosi niwed i'r ymennydd, afiechydon i'r croen a marwolaethau cynnar.

Ar ei fynediad i'r ystafell gafaelodd yr Yswain yn ei law, ac ysgydwodd hi yn galonnog a chroesawgar, a datganodd ei ofid am ei golled, a'i lawenydd am nad oedd Harri wedi derbyn niwed, a dywedodd yn ddistaw yn ei glust: `Oni bai mod i'n gwybod fod ti wedi cael llawer o arian ar ôl dy dad, mi f'aswn i yn dy helpio di i neud y golled i fyny.

Dim niwed anarferol.

Wnaeth Williams fawr o'i le ond roedd y niwed wedi'i wneud gyda Higgins ar y blaen o saith ffrâm i ddwy.

Dylid gwneud hyn hyd yn oed os na chafwyd unrhyw niwed amlwg.

Yn ogystal â chofnodi damwain mae lawn bwysiced bod staff yn cofnodi digwyddiad a fu bron ag achosi damwain neu berygl fel y gall y Gymdeithas ddelio â'r mater a helpu i rwystro aelod arall o'r staff rhag cael niwed.

Edrychai'n ddigon di-niwed, ond dywedwyd wrthym bod rhannau helaeth ohono wedi ei blannu â ffrwydron.

Cred y Gymdeithas y gall pob damwain yn y gwaith gael ei hosgoi a bydd amgylchiadau unrhyw ddamwain, boed honno yn un a arweiniodd at niwed neu beidio, yn cael eu harchwilio a lle bo modd, cymerir camau gan y rheolwyr i leihau'r posibilrwydd o ddamwain debyg yn ailddigwydd, (a gweler Trefniadau Argyfwng).

Ni fu unrhyw niwed i'r planhigion laswellt er y driniaeth gynnar yma, ond teg ychwanegu hefyd na fu rhew yn fy ardal i ar ochr orllewiol penrhyn Llþn, ac ar yr arfordir, eleni.

'Wnes i mo'r niwed lleia' iddo fo, naddo wir.

Mewn achosion o'r fath, gall "Adennill" cyfeiliornus beri niwed di-ben-draw, a bydd yr Uned yn derbyn cyngor oddi wrth yr Adain Gefn Gwlad ynglŷn â gwerth safleoedd i'r amgylchedd.

Mae Manawydan a Llwyd, ill dau, yn adennill yr hyn a oedd yn nesaf at eu calonnau, mae anrhydedd y naill a'r llall heb niwed, ac ni chollir diferyn o waed.

Ni wnaeth neb geisio'i ddwyn na gwneud dim niwed i mi.

Na, paid â bod fy ofn i - wna i ddim niwed i ti.

Mi feder o mewn gwirionedd wneud niwed i rhywun.

Cafwyd Stephens yn euog o achosi niwed corfforol i Bebb, ar ôl iddo daflu dwrn mewn gêm rhwng Cross Keys a Phenybont.

Nid ydwyf yn dywedyd fod llafurio ac ymboeni gyda hyn o angenrheidrwydd yn niwed i wir grefydd a duwioldeb yn yr enaid....

Cafodd y ddau niwed yn ystod gêm gyntaf Cymru yn erbyn Santory yn Japan ddydd Sadwrn diwethaf.

Os yw'r niwed gyfryw fel bod gofyn i'r aelod o'r staff gael cymorth a/ neu sylw parhaus yna fe fydd yr aelod uchaf o'r staff sydd ar gael yn penderfynu p'un ai i drefnu cludiant neu alw am ambiwlans.