Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

niweidio

niweidio

Ni allaf weld chwaith y gwnai rhew niwed i blanhigion glaswellt, mae defaid yn pori trwy'r gaeaf nes bydd arwynebedd y borfa yn llwm iawn, hynny yw, wedi torri'r glaswellt yn agos iawn i wyneb y pridd ond heb ei niweidio ar gyfer porfa'r tymor dilynol.

Camgymeriad mawr fyddai trwsio crud gyda phren ysgawen gan y gallai gwrachod wedyn niweidio'r plentyn.

Gall dogn uchel o belydriad niweidio, a lladd, celleoedd, a chan fod canran sylweddol o'r radio-iodin yn ymgasglu yn y thyroid, celloedd y thyroid a gaiff eu heffeithio fwyaf gan y pelydrau.

Y canlyniad fu i'r llyw rhydd droi mewn cylch a tharo corff y llong a niweidio'r platiau a hynny yn gwneud i'r llong gymryd dwr.

O ddefnyddio cansenni, dylid eu gosod yn y pridd cyn plannu'r tomatos rhag niweidio'u gwraidd.

Dyna pam y gellir casglu'r blodau hen niweidio'r planhigyn, ond peidiwch a sathru'r dail gan mai hwy sy'n bwydo'r oddfyn.

Maen nhw'n barod i blygu i'r gwynt, felly mae'r gwynt yn chwythu drwyddynt heb eu niweidio.

Ni ddylid gadael i ddynion a merched farw yn yr anialwch, nac i gannoedd o filoedd o ddynion, merched a phlant diniwed gael eu lladd a'u niweidio.

Rhaid i unrhyw gyfarpar sydd wedi'i niweidio neu sydd ddim yn gweithio beidio â chael ei ddefnyddio ymhellach a'i ddwyn i sylw'r Swyddog Adeiladau.

Mae'r chwynladdwr dewisol yn lladd chwyn heb niweidio'r glaswellt.

Mae'r amrannau a hefyd socedi'r llygaid yn eu gwarchod rhag cael eu taro, ond dylech gofio hefyd i beidio ac edrych i lygad yr haul; mae'r retina'n sensitif iawn, a gellir ei niweidio.