Deng niwrnod i'r dydd fe deimlais anesmwythyd yn ochr dde fy nghefn, a'r noson honno fe'm dihunwyd yn sydyn gan frathiad o boen yn ochr fewnol fy morddwyd.
Fe â'r firws i mewn trwy'r geg a'r gwddf, ac wedyn mae'n cynyddu yn y corff mewn celloedd arbennig am ddeng niwrnod cyn ail-gyrraedd y gwaed ac achosi pothelli ar y croen a thu fewn y gwddf.
Wythnos o leiaf, a chyda thipyn o stilio hyd yn oed ddeng niwrnod.
Ymhen ychydig ddyddiau cefais alwad ffôn ganddo yn dweud bod y telerau'n dderbyniol ac yn gofyn inni fynd yno ymhen pythefnos, aros am ddeng niwrnod, ac y byddai ef yn danfon ticedi inni trannoeth.
Jamie Baulch sydd wedi ennill brwydr y Cymry i gynrychioli Prydain yng Nghwpan Athletau Ewrop ymhen deng niwrnod.
Profodd y pum niwrnod canlynol yn llawn difyrrwch hyd yr ymylon, a hwythau'n mwynhau nofio, sgi%o dros y dŵr, hwylio, chwarae tennis a marchogaeth ceffylau.
Os byddwch yn absennol rhwng un a saith niwrnod calendr byddwch yn cwblhau tystysgrif eich hunan ("Self Certificate%) i nodi'r rhesymau am eich absenoldeb.
Wyth niwrnod yn ddiweddarach, fe aethon nhw â'r gŵr.
Fe'ch telir ar neu oddeutu y pymthegfed niwrnod o bob mis ac fe'ch telir trwy drosglwyddiad banc.
"Fe wynebwn ni hynny pan ddaw'r amser," meddai yntau, "mae na lawer tro ar fyd ac mae deng niwrnod ar ôl o'n gwyliau ni.
Rhoddodd gerdyn i Ian Boobyer ddoe, bum niwrnod ar ôl y gêm yng Nghasnewydd.
Felly, bydd gan yr heddlu hawl i alw ar fodurwr i ddangos ei drwydded mewn swyddfa heddlu o fewn saith niwrnod.
Ni fydd wythnos waith arferol yr Artist yn fwy na phum niwrnod mewn saith nac yn fwy na deugain awr ond na weithir llai na phedair na mwy na deg awr mewn diwrnod heb gyfrif awr o doriad pryd bwyd a hyd at awr o deithio i neu o leoliad/stiwdio.
Yn ôl llefarydd ar ran Cymdeithas Pêl-droed Lloegr mae na gytundeb na fydd y cae yn cael ei ddefnyddio am ddeng niwrnod cyn y ffeinal.
Wedi rhyw ddeugain niwrnod, mwy neu lai, deorodd yn alefin bach a'i fwyd mewn sach dan ei fol.
Fe fyddaf yn manylu ar ei flynyddoedd yn Llanrhaeadr mewn darlith yno ymhen rhyw ddeng niwrnod - os gallaf sgrifennu'r ddarlith mewn pryd - ac felly fe fodlonaf ar amlinellu'r hanes yn unig yma.
Os byddwch yn absennol am fwy na saith niwrnod calendr byddwch yn cyflwyno tystysgrif meddygol a bydd gofyn cael tystysgrifau meddygol pellach nes y bydd tystysgrif terfynol yn caniatau i chi ddychwelyd i'ch dyletswyddau arferol.
Yn ystod y pum niwrnod cyn hedfan i Nairobi, ro'n i wedi cnoi cil dros y berthynas rhwng y personol a'r gwrthrychol, dros yr angen, ar un llaw, i gofnodi ffeithiau am newyn a oedd yn bygwth dileu cenhedlaeth gyfan o blant Somalia ac, ar y llall, i gofnodi barn.
Hawliant droi diwrnod o'i phum niwrnod hi yn ddydd Saesneg cyn cyfrannu at ei chynnal hi'n anrhydeddus.
Gwyddai ei fod e yn ei chael hi'n ddeniadol a gobeithiai, ymhen amser, y tyfai'n hoff ohoni, ond credai na fyddai byth yn ei charu gan y cant : ddim ymhen deng niwrnod na deng mis na deng mlynedd.