Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nobl

nobl

Mawl i Ti, fy Arglwydd, am ein brawd nobl, yr Haul, Mawl i Ti am ein chwaer, y Lleuad, a'r sêr i gyd, Mawl i Ti am ein chwaer, Dwr...

Roedd yn geffyl nobl ac addas at y gwaith.

Ceisiasom bopeth - twrci mawr a'r holl addurniadau a âi gydag ef, coeden Nadolig nobl a sacheidiau gan Siôn Corn.

O dderbyn athrawiaeth llesâd gwlad ei hun a gwledydd eraill, pam, tybed, na allai athronydd mor gwbl eglur ei feddwl â Russell weld posibiliadau patrwm nobl o gydweithredu mewn Conffederasiwn Prydeinig?

Er mai seithug yw'r ymdrech yn y pen draw, mae ei chyfiawnder (yn ol dehongliad Saunders Lewis) yn nobl.

Gwr nobl oedd y Parchedig John Jones, yn fugail gofalus i'w bobl ers pymtheng mlynedd, ond ar derfyn pnawn heulog o Orffennaf fel hyn, ac yntau wedi galw yn rhai o ffermydd y fro ar ei daith i'r Plas, roedd o fymryn yn ansad ar ei draed ac, o bosibl, beth yn orhyderus yn ei siarad.

Ceir ynddi ddigonedd o hiwmor cynnil a nobl sy'n ysgafnhau'r digrifwch ac yn deillio ohono.

Go brin y bydden nhw'n ffansïou lwc yn erbyn rhywun mor nobl a Helen Mary Jones, dyweder.

Nid ple yw hyn dros fynd yn ol i'r hen amser yn gymaint a rhyfeddu mor rymus o nobl y cerddodd y canrifoedd rhagddynt, a hynny heb un arlliw o dechnoleg ein blynyddoedd esmwyth ni.