Drachefn eleni bu casglu arian at Gymorth Cristnogol; hynny o ddrws i ddrws yn y dref gan aelodau gwahanol eglwysi a thrwy daith feicio noddedig gan y bobl ifainc.
Y bwriad ar gyfer y dyfodol agos yw cynnal noson o ddistawrwydd noddedig a gwau ar gyfer Oxfam.
Dywedodd Huw Lewis, un o arweinwyr yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith, wrth baratoi am y daith gerdded gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg: 'Yr ydym wedi troi ein taith gerdded o Gaerdydd i Lundain yn daith noddedig er mwyn i'n cefnogwyr gael cyfle i gefnogi Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ariannol.
Bydd rhai o'r aelodau hynny o Gymdeithas yr iaith Gymraeg sy'n cerdded o'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd i'r Senedd yn Llundain fel rhan o'r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd yn troi'r siwrnai yn daith noddedig.
Mae'r ail gerddwr noddedig, Dylan Wyn Davies sydd hefyd yn 20 oed yn dod o Gwenllan, Llanfihangel ar Arth, Pencader ac yn gweithio i gwmni Cadwyn yn Llanfihangel ar Arth, Sir Gaerfyrddin.