Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

noddi

noddi

Mewn dim amser mae Cassie wedi cael rhan helaeth o fusnesi'r Cwm i noddi tudalen yn y calendr er bod amheuon mawr gan Hywel a Steffan yn enwedig o glywed bod ei fam a'i nain yn bwriadu ymddangos yn y calendr.

At hynny, y mae'r Gymdeithas wedi galw am y canlynol: bod y Swyddfa Gymreig yn comisiynu ac yn noddi prosiect ymchwil ar 'Ddefnydd yr Iaith Gymraeg mewn Cynllunio'; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol roi ystyriaeth i'r Gymraeg yn eu Cynlluniau Datblygu Unedol, gan mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru a'i bod hi'n etifeddiaeth gyffredin i holl drigolion Cymru; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol gynnal arolwg o gyflwr yr iaith yn eu hardaloedd, a llunio strategaeth iaith a fydd yn ffurfio polisïau i warchod a hyrwyddo'r iaith yn eu hardaloedd; - bod y Swyddfa Gymreig yn rhoi fwy o arweiniad i'r awdurdodau cynllunio lleol, ac yn cyhoeddi canllawiau fwy manwl ar ba fath o bolisïau y dylid eu mabwysiadu er gwarchod a hyrwyddo'r iaith.

Disgwylir incwm o'r gwerthiant noddi cyhoeddi pellach.

BYDD Bwrdd Datblygu Cymru Wledig, mewn cydweithrediad a Chymdeithas Pêl-droed Ysgolion Cymru, yn noddi Gŵyl gyntaf Cwpan Cymru Wledig Ebrill nesaf.

Ond ar ôl dweud hynny, ddaru Towyn erioed fygwth peidio noddi'r ysgoloriaeth, na rhoi unrhyw bwysau ar yr Eisteddfod i lacio'r Rheol Gymraeg.

Mae'n 'fam' i gasgliad digon difyr o anifeiliaid, gan ei bod yn 'mabwysiadu' anifail gwahanol pob blwyddyn trwy noddi un ar gynllun arbennig sy'n gwarchod anifeiliaid yn eu cynefin.

Y ddau deithiwr fydd yn cael eu noddi ar y daith 150 milltir yw Huw Lewis o Aberystwyth a Dylan Wyn Davies o Lanfihangel ar Arth, Pencader.

Mae'r sefyllfa'n waeth byth pan mae ambell sianel yn cael cwmni%au i noddi ffilm neu raglen.

Ymddengys fod Rhys frawd Hopcyn, yntau, yn noddi copio a chyfieithu llawysgrifau.

Ai dyma'r tro cynta i ddawnsio gwerin gael ei noddi?

Wedi'i noddi gan yr Undeb Ewropeaidd, mae Eurolang wedi ei leoli ym Mrwsel, a'i fwriad yw delio a meterion yn ymwneud a lleiafrfiedd diwylliannol Ewrop.

Cyfeiria'r Rheolwr at rannau eraill o'r wlad lle 'roedd gwasanaethau a oedd yn gwneud colled yn cael eu noddi gan awdurdodau lleol oherwydd eu hangenrheidrwydd cymdeithasol.

Heddiw y mae Adran Gymreig y Weinyddiaeth Addysg yn noddi'r Gymraeg a'i chymell ar yr ysgolion yn daerach na'r awdurdodau lleol Cymreig.

Gwasanaeth Diolchgarwch: Dosbarth Tryfan oedd yn gyfrifol am y Gwasanaeth Diolchgarwch eleni, a chyflwynwyd hanes Jeffrey Kirni, bachgen bach croenddu o Kenya sydd yn cael ei noddi gan yr ysgol.

Mae United Biscuits yn hynod falch o gael noddi "Rheoli Eich Lleoliad", sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan athrawon.

Gobeithid y byddai BT yn noddi sefydlu rhwydwaith o'r fath.

Credai W J Gruffydd, fel y dengys y cyfeiriad at y ffynonellau Ffrangeg yn y dyfyniad uchod, for yr Anglo-Normaniaid yng Nghymru, yn arbennig yn Neau Cymru, wedi noddi beirdd o Gymry a beirdd o Norman- Ffrancwyr, fod y ddau ddosbarth o feirdd wedi dylanwadu ar ei gilydd, ac mai'r prif ddylanwad a ddaeth ar y Cymry ydoedd dylanwad y mudiad barddonol a reiddiodd allan o Ddeau Ffrainc, hynny yw, dylanwad y mudiad trwbadwraidd.

Yn yr Hydref, bu farw'n ddisymwth Rhydderch - aelod, fel Gwenlyn, o'r Academi Gymreig sydd yn noddi'r cylchgrawn hwn.