Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

noddwr

noddwr

Caiff eu noddwr ei foli ganddynt yn y dull traddodiadol, fel y gellid disgwyl, ac y mae'r hyn a ddywedir ganddynt am ei groeso brwd a'i ddiwylliant yn arbennig o werthfawr o safbwynt astudio'r traddodiad nawdd.

Bu hefyd yn noddwr hynod o hael i rai o feirdd enwocaf ei gyfnod athroes Abergwili yn un o hafnau mwyaf croesawgar a dymunol yr oes i lenorion.

O ganlyniad, roedd sicrhau gwisg Gymreig i'r ddwy chwedl hyn, o bosibl i gomisiwn Hopcyn ap Tomas, noddwr dylanwadol o Gwm Tawe, yn fodd i ddarparu ar gyfer y gynulleidfa Gymraeg waith na ellir ond ei ddisgrifio fel un o bestsellers yr oesoedd canol.

Dathlodd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ei phen-blwydd yn 70 gyda dau gyngerdd arbennig: un yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ym mhresenoldeb Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, Noddwr Brenhinol y gerddorfa, a'r llall yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe.

Ond llawer mwy difrifol na'r ddeubeth hyn oedd fod Evan Meredith yn amau fod i Forgan ran mewn dwyn achos o odineb yn ei erbyn yn llys yr esgob yn Llanelwy, er bod Morgan yn gwadu hynny; a hefyd y ffaith ddiymwad fod Morgan wedi helpu i sicrhay llaw aeres Maesmochnant, un o stadau cyfoethocaf y gymdogaeth, ar gyfer Robert Wynne, mab ei noddwr, Maurice Wynn o Wedir, er bod Edward Morris hefyd a'i lygad arni.

Praw digon digamsyniol o fri unrhyw noddwr ac o fywiogrwydd llenyddol ei drigfan yw fod beirdd wedi ymryson am le o dan ei gronglwyd.

Dydy Stewart ddim yn chwarae i dîm Lloegr yn erbyn Tîm y Noddwr yn Pakistan ar hyn o bryd.

Iawn yw i arglwydd ennill clod a bod yn batrwm i'w farchogion, oherwydd nid gweithgarwch 'diffrwyth' mohono bellach gan ei fod yn foddion cyfoethogi 'ei lys a'i gydymddeithon a'i wyrda o'r meirch gorau ar arfau gorau ac o'r eurdlysau arbenicaf a gorau'.' Trwy'r adran hon gwelir yr awdur, ac mae'n debyg ei gynulleidfa a'i noddwr, yn ymhyfrydu ym mhasiant y llys, gloywder lliwiau a helaethrwydd anrhegion a gwleddoedd ac yn urddas gosgorddion 'yn wympaf nifer a welas neb erioed', fel na ellir peidio â sylwi ar ei ddiddordeb byw yn ystyr arglwyddiaeth a'r mynegiant gweladwy ohoni.

Er enghraifft, os oedd Sais yn dymuno cyfansoddi cerdd foliant i'w noddwr, byddai'n meddwl yn gyntaf am efelychu Pindar neu Horas.

Gelwid ef yn Maecenas - yn noddwr llenyddol a chynghorwr - gan ei gâr William Vaughan o Gorsygedol, cyfaill mawr Ben Johnson.

Crynhoir hynny'n ddeheuig iawn mewn un cwpled lly cyfeirir at y noddwr ymroddedig yn ei swydd yn geidwad tŷ yn yr olyniaeth deuluol a weithredai 'â mawredd a chymeriad'.

Ym mhob cynhadledd i'r wasg yr oedd rhyw noddwr gyda rhyw newydd gymorth yn cael ei baredio ger ein bron yn gwisgo bathodynnau gyda'r gair Noddwr arnyn nhw.

Hysbysodd y Cadeirydd yr aelodau hefyd iddi gael sgwrs a Chapt.Lewis-Jones ynglyn a hyn, ac y teimlai y byddai'n anrhydedd iddo ddyfod yn noddwr Canolfan Gynghori Meirionnydd.

Ef oedd y pedwerydd noddwr y cyfeiriwyd ato uchod.

Yn anffodus ni fu'r prif noddwr arall, yr Awdurdod Datblygu mor barod i ymateb yn gadarnhaol a'r Cyngor ac o ganlyniad cafwyd oedi cyn medru gwneud yr astudiaeth.