Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nodwedd

nodwedd

Nid rhyfedd ychwaith i'r beirdd gydnabod bod pwyslais ar achau a disgynyddiaeth yn nodwedd hanfodol angenrheidiol yn eu cerddi.

Ar gyfer nodweddion o'r fath mae angen dulliau ystadegol i ddadansoddi faint o amrywiaeth sydd i'w weld mewn nodwedd, a faint o'r amrywiaeth yma sy'n deillio o'r amgylchedd a faint sy'n cael ei reoli gan enynnau'r anifail.

Prif nodwedd y diwinydd da yw ei allu i ddatgan bod Duw yn fwy nag unrhyw ddehongliad ohono: prif nodwedd y gwleidydd da yw ei allu i ddangos bod gwleidyddiaeth iach yn fwy nag unrhyw athroniaeth wleidyddol.

Stafell druenus gydag un nodwedd arbennig - ei bod yn anhygoel o lân.

Ond mae'n nodwedd ar ymrysonfeydd geiriol y nofelau bod y ddwy ochr, ni waeth lle yr oedd cydymdeimlad yr awdur, yn cael llinellau cryfion er mwyn cynnal.

Ei werth yw i storio dþr mewn pridd a chompost; nodwedd werthfawr iawn mewn haf fel llynedd neu i rwyddhau natur pridd cleiog, hynny yw, casglu gronynnau mân pridd cleiog at ei gilydd yn ronynnau mwy er mwyn hyrwyddo sychu tir felly ar gyfer ei drin.

Nodwedd arbennig y cyfarfodydd hyn, fel ym mhobman yng Nghymru ar y pryd, oedd fod pobl yn cymryd rhan yn ddigymell, llawer ohonynt yn bobl nad oeddent wedi cymryd rhan yn gyhoeddus erioed o'r blaen.

Nodwedd amlwg yn ei gymeriad oedd y gwnai bopeth a'i holl egni, gan roi ei orau ym mhopeth yr ymaflai ei law ynddo.

Nodwedd arall a berthynai i'w gymeriad a'i gynnyrch oedd cadernid a phendantrwydd, a hyn a wnaeth ei olygyddiaeth, fel ei weinidogaeth, yn rymus ac effeithiol.

A nodwedd arall amlwg iawn yn Llydaw yw'r meini hirion.

Y nodwedd arall ddylid ei bwysleisio yw'r amrywiaeth mawr sy'n nodweddu pridd a'i ddosbarthiad yng Nghymru.

Rydym wedi son eisioes am gyrn anifeiliaid.Gyda'r nodwedd yma nid oes angen dulliau cymhleth o ddadansoddi gan mai dim ond dau bosibilrwydd gweladwy sydd yna - cyrn neu dim cyrn.Gellir deall sut mae'r nodwedd yma yn cael ei hetifeddu yn weddol syml.

Yr oeddwn yn llanc pendew a thwp pan gwrddais â John Gyntaf, ac , i'm tyb i, anwybodaeth anifeilaidd oedd ei nodwedd amlycaf.

Dangos Shane, y ffilm nodwedd gyntaf i gael ei dybio i'r Gymraeg, ar y teledu.

Cyfrannodd BBC Cymru gyfres o gerddoriaeth arbenigol ar Radio 2 am y tro cyntaf yn ogystal ag eitemau nodwedd.

Os mai gormodedd yw nodwedd amlwg problem y gorllewin, tlodi a thŷf poplogaeth yw problem gyfatebol gweddill y byd.

Mae'n bleser cael y cyfle i wasanaethu'r gwerthoedd yr wy'n credu ynddyn nhw." Dyna nodwedd llawer o'r cynhyrchiadau y mae ef wedi gweithio arnyn nhw yn y gorffennol, llawer ohonyn nhw ar y cyd gydag awdur y gerddoriaeth y tro hwn, Eirlys Gravelle.

Nodwedd boblogaidd o'r gyfres hon fu'r sesiwn holi ac ateb wedi'r cyngerdd sy'n cynnwys y gynulleidfa, Cyfarwyddwr Cerdd y gerddorfa, Mark Wigglesworth, y Prif Arweinydd a chwaraewyr allweddol.

Mae braster mewn anifei- liaid, er enghraifft, yn rhywbeth na ellir ei fesur yn uniongyrchol ar anifeiliaid byw ond mae'n nodwedd bwysig iawn oherwydd y galw am gig gyda llai o fraster.

Nodwedd amheuthun o'r llyfr hwn yw'r cydbwysedd a geir rhwng pob elfen o hanes Cymru - y cydbwysedd rhwng y tir a'r môr, gwlad a thref, diwydiant ac amaethyddiaeth, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth.

Nodwedd arall yn ei gymeriad a'i gwnâi'n fugail effeithiol oedd ei allu i siarad yn ddi- lol â neb pwy bynnag.

Er bod modd mesur y nodwedd ei hun, ni ellir yn hawdd ddeall sut mae'n cael ei hetifeddu.

Ond y mae un nodwedd yn gyffredin i'r tair elfen hyn, sef mai canu cymdeithasol ydyw gan fwyaf, a'r beirdd unwaith yn rhagor, fel eu rhagflaenwyr yn y ddeunawfed ganrif, yn canu i ddigwyddiadau'r fro a'i phobl.

Nodwedd amlwg ein gaeaf ni, yw brigau noeth y coed a'r llwyni, fel y dderwen a'r ddraenen.

Nodwedd benodol yr haen hon yw mai ystyried y ffordd y mae ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iaith mewn cyfathrebu pynciol yn y cyd-destun uniaith a wneir, cyn symud i gymhlethdod y sefyllfa ddwyieithog.

Yr un pryd dylid cofio nad llonyddwch yw nodwedd gronynnau sylfaenol y cosmos.

Nodwedd yn yr amgylchedd Da iawn Marc Drwg iawn

Yr oedd rhyw ddiniweidrwydd gwladaidd yn perthyn i'w gymeriad, a'r nodwedd hon a ddaliodd sylw John Thomas, Lerpwl:

Yr oedd yn bigog iawn rhyngddo a'r Deon Edmund Griffith ac y mae'r berthynas honno'n enghreifftio nodwedd amlwg iawn ym mherthynas yr Eglwys a theuluoedd uchelwrol sir Gaernarfon.

Yn y tabl isod dosberthir cynnyrch Cymraeg y ddwy flynedd yn ôl eu prif nodwedd - Print, Fideo, Sain, Meddalwedd

Credir gan archaeolegwyr mai beddrod o Oes y Cerrig Newydd yw'r Garreg mewn gwirionedd, ond mae'r chwedl yn esiampl arall o arferiad ein cyndadau i geisio egluro nodwedd hynod yn ein tirlun.

Ymddengys i mi mai rhyw angen seicolegol ynddo oedd hyn, rhyw nodwedd ar ei bersonoliaeth.

Nodwedd amlwg iawn yr arwyddion uchod yw eu bod mor debyg eu naws i'n harwyddion tymhorol traddodiadol ni.

Roedd rhaglenni nodwedd radio, hefyd, yn amlwg ar y rhwydwaith.

Pryder oedd prif nodwedd y pwyllgor ar y diwrnod hwnnw, fel arfer.

Hwyrach mai'r nodwedd tadolaidd yn Sam a ysgogodd y llinell enwog, 'Babi Sam yw'r BBC.' Ni wn, gyda llaw, pwy piau hi.

Yr ail nodwedd yw hon: pan fydd incwm yn codi gwell gennym brynu nwyddau tramor na rhai'r wlad yma ac, yn ychwanegol at hyn, mae gwledydd eraill yn llai tueddol i brynu nwyddau Prydeinig.

Pobl groesawus yw'r Uzbek ac y mae'r chai, sef y paned te, yn nodwedd syml o'u croeso a'u traddodiad fel teithwyr y steppe a'r anialwch.

Ar gyfer pob pwnc, dylai arolygwyr farnu tair nodwedd bwysig:

Nodwedd fwyaf trawiadol yr adeilad yw'r brif fynedfa sydd â phortico talog yn cael ei gynnal gan chwe colofn Ionig o farmor Môn.

Lle bu miloedd yn dod ynghyd i wrando ar lais chwyldro nodwedd amlycaf y saithdegau oedd chwalfa.

Y sêl hon yw nodwedd hollbwysig yr wyddor newydd.

Mae lliw gwyn ar ben y gwartheg Hereford yn en- ghraifft arall o nodwedd sy'n cael ei hetifeddu'n gymharol syml.

Prif nodwedd yr Eglwys Geltaidd oedd ei mynachlogydd.