Yn un peth, y mae'r hyfforddi plant mewn canu a nodweddai ein heglwysi gynt bron wedi diflannu.
Diffeithdra a diweithdra a nodweddai rannau helaeth o Gymru bellach.
Arwydd arbennig o'r gweithgarwch meddyliol a nodweddai'r cyfnod ydyw nifer y llyfrau a gyhoeddwyd a nifer y cylchgronau a gychwynnwyd.
Cyfeiriodd yr adroddiad hwnnw at y tlodi, y cyflogau isel a'r diffyg cyfleoedd a nodweddai'r cymunedau.
Meddai ar y priodoleddau a nodweddai ei gŵr yn rhinwedd ei thras a'i magwraeth.