Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

noethni

noethni

Arbedwyd llawer ohonynt rhag cael eu cywilyddio yn eu noethni a chawsant eu torri gan adael stympiau o foncyffion fel byrddau coffa.

Felly, er cymaint pwyslais Williams ar hyd ei oes ar uniongrededd mewn athrawiaeth, yr oedd yn sensitif iawn i'r angen am ffydd fywiol yn y galon, y ffydd a oedd yn sicrhau cyfiawnder Duw fel mantell i guddio noethni moesol y pechadur.

Rhaid i'm henaid noeth, newynllyd Gael yn fuan dy fwynhau; Rho dy wisg ddisgleirwen, olau, Cuddia'm noethni hyd y llawr, Fel nad ofnwyf mwy ymddangos Fyth o flaen dy orsedd fawr.

Moderniaeth oedd y mudiad a ddaeth i ddisodli Rhamantiaeth, er mai Realaeth, realism, oedd term y beirdd am y canu newydd hwn a oedd yn wynebu bywyd fel ag yr oedd yn ei holl noethni, ansicrwydd a hagrwch, gan fyw yn y presennol yn hytrach na ffoi i'r gorffennol.