Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nofio

nofio

"Dyna'r peth gorau a ddigwyddodd i mi erioed," ebe'r morwr wrth wylio'r pysgodyn mawr yn troi ar ei gefn ac yn nofio i ffwrdd.

Hynny yw, y wynebau sy'n gwasgu at ei gilydd wrth reoli bwrw dwr allan yn ystod y symudiadau nofio.

Yn ogystal â'r prif aelodau mae Siôn Llwyd yn westai ar y CD, gan chwarae gitâr ar Nofio yn Erbyn y Lli.

Y cyfan a gyflawnodd hyd yn hyn yw amddifadu Cymru ai phobl o bwll nofio o safon.

Holodd bob un o'r criw yn eu tro, ond gwadodd pob un ei fod yn medru nofio, gan fod y môr hwnnw'n Uawn siarcod.

safodd y pedwar i weld eu llongau 'n taro 'r dŵr ^ r ac yn troi 'n ansicr i nofio i lawr yr afon, ac yna rhedodd y bechgyn nerth eu traed tua 'r fan lle cymerai 'r afon dro llydan, braidd fel pedol ar ymyl y ffordd ac yn ôl wedyn.

Bydd miwsig Calypso i lonni ei feddwl drwy gydol y dydd, o dan y palmwydd, ar y traeth, yn y pwll nofio, yn wir, lle bynnag y bo.

Pam lai clwb Judo, aerobics, cadw'n heini, clybiau ieuenctid, Sgowtiaid, dosbarthiadau nofio etc yn Gymraeg?

Yr oedd llawer o bobl hefyd yn mwynhau nofio, pysgota a rhwyfo yn llyn Angkor Wat.

Mae'n terfynu'r traethawd drwy son am Geiriog fel bardd gwladgarol: 'yr oedd yn nofio ar donau y llanw gwladgarol sydd yn cryfhau yng Nghymru bob dydd.'

Profodd y pum niwrnod canlynol yn llawn difyrrwch hyd yr ymylon, a hwythau'n mwynhau nofio, sgi%o dros y dŵr, hwylio, chwarae tennis a marchogaeth ceffylau.

Fel a'r Deufalfiaid eraill sy'n medru nofio, megis y gregyn bylchog, mae'r llabedau mawr hyn yn gweithredu i reoli symudiad y dwr allan o geudod y fantell pan fydd yr anifail yn nofio.

Ymhlith y diddordebau eraill a nodwyd roedd cerdded, gwau/ gwnio, cerddoriaeth, nofio (pob un o'r rhain yn cael eu henwi sawl gwaith), pysgota, ysgrifennu, eisteddfota, ffotograffiaeth, magu plant, gwylio adar, beicio, gwaith gwirfoddol ac arlunio.

ebe huw huw fedr o nofio?

Mam hwnnw mewn côt croen dafad tu ôl i'r gwydr, yn syllu a rhythu wrth wylio'i bachgen bach gwyn hi'n nofio'n ofnus ar hyd a lled Pwll yr Ymerodraeth, a dau lamhidydd bach du'n nofio o'i amgylch ac ar 'i draws, er mwyn cadw golwg arno fe!

Yng Nghaerdydd fe ddymchwelyd pwll nofio 50 metr yng Nghaerdydd i adeiladu Stadiwm y Mileniwm.

Gan dderbyn cymorth tîm arbenigol o nofwyr tanddwr o'r Llynges Frenhinol (LLF) i ddechrau, yn ogystal â rhai nofwyr amatur, archwiliodd y tîm yn systematig chwe milltir sgwâr o wely'r môr gan ddefnyddio dull gwifren nofio y LLF ('...' ).

WALI: Tîm nofio'r ysgol?

Cafodd yr unig bwll nofio yng Nghymru, o safon Olympaidd, ei chwalu o'r neilltu er mwyn gwneud lle i'r deml rygbi newydd y byddai Graham Henry yn Archoffeiriad ynddi.

Y môr yn gynnes a llawn heli cryf wrth inni nofio'n hyderus tuag at y dwr brown yn ein gwahodd ni tua'r traeth a gweld eglwys wen, fechan, ar y lan.

A châi hithau fynd â Gwenan i'r pwll nofio.

Daeth swn llesmeiriol tonnau'n taro'r creigiau i'n clyw, brysiodd sgwadron o hwyaid heibio a glanio fel pe ar orchymyn arweinydd i nofio'n gytun.

Wedi inni godi pabell yn Zernez yn yr Engadin Isaf, roeddwn wedi mynd i fyny i gaban Lischana, rhyw bedair awr uwchben tref Scuol, gan obeithio esgyn Piz Lischana yn y bore: yn y gwres mawr, roedd yn well gan y teulu gael prynhawn yn y pwll nofio.

Er bod cyfyngiadau'r offer nofio tanddwr oedd ar gael bryd hynny yn rhwystr i ddatblygiad y pwnc ar y dechrau ffynnodd pan gyflwynwyd offer anadlu cylched agored, yr Aqualung.

Wedyn, pan oeddwn yn nofio yn y dwr y cefais yr ateb.

Daeth o hyd i hwnnw ar ei liniau, a dywedodd wrth y morwr ifanc: "Os oes gen ti rywfaint o synnwyr ar adeg fel hyn, mi ei dithau ar dy liniau a gweddi%o." Caeodd Douglas ei lygaid a dweud ei bader yn dawel wrth nofio'n unig yng nghanol y môr mawr.

Mae'n cymryd y pnawn yma'n rhyd, fydd e ddim yn cael llawer o amser rhydd yn ystod tymor yr ymelwyr, ac felly fe ofynnodd i mi fynd i nofio gydag e.

Dydw i ddim yn medru nofio - dim ond padlo buo Lisi a fi - ond mi oedd Defi John a Jim fel petha' gwirion, ishio gweld pwy fedra nofio bella o'r lan.

Honnwyd hefyd y byddai dros gant o ddeifwyr yn archwilio gwely'r môr i sicrhau nad oedd unrhyw ffrwydron yno, cyn i Fidel wneud unrhyw nofio tanddwr.

gofynnodd wil, a sylweddoli ar ôl gweld gethin yn edrych yn hurt arno na fedrai neb nofio mewn dyfroedd fel hyn.

Tybed ai fi oedd yr unig un i weld eisiau yr hen bwll nofio wrth gerdded hebio Parc yr Arfau cym Stadiwm y Mileniwm wedir cywilydd ddydd Sadwrn diwethaf.

Rydw i'n mynd i nofio eto.

Yn ysgol Salvador Allende roedd yna lyfrgell, pwll nofio a maes chwarae.

'Roedd pwll nofio'n barod amdanom yn y gwesty i esmwytha/ u'r cyhyrau ysig ac ailddeffro'n cyrff at asbri'r hwyr.

(Yn wir, ceisiwyd cyflawni'r un gamp yn ystod gwers symiau ar fore Llun ambell dro!) Clywsom am ei gampau anhygoel yn nofio afonydd, yn dal llama ac yn marchogaeth merlod y paith.

Nid oes gennyt obaith nofio i'r lan ond fe weli gangen yn pwqyso'n isel dros yr afon.

Os gadewir yr awr fawr yn rhy hwyr, bydd cyfnod yr 'hanner cyntaf' pan chwery'r sewin ar yr wyneb gan gymryd ambell bluen ar lein nofio (floating line) wedi darfod.

Un o'u harwyr mawr oedd Owain Glyn Dwr ac maent wedi bedyddio pennaeth eu pyllau nofio yn Rhanbarth Nom yn 'Glyn the Swim.'

"Mae'n well i mi nofio oddi wrtho." Ond dilynodd y crwban anferth ef yn dawel gan edrych yn ddiniwed arno â'i ddau lygad enfawr.

Cododd ei law i geisio rhwystro'r peth rhag ei dagu, a gwelodd ugeiniau o lysywod anferth yn nofio o'i gwmpas.

Felly, penderfynodd fynd i lawr at y môr i nofio.

Cyhoeddwyd bod chwech o noethlymuniaid yn mynd i nofio ras gyfnewid o un pen i'r loch i'r llall.

Wrth ei wylio'n croesi at y pll nofio, meddyliai mai'r unig beth a chwythai bob problem i'r pedwar gwynt fyddai iddo fe syrthio mewn cariad â hi.

Teimlwn fy ysbryd yn esgyn ac yn esgyn nes yr oeddwn "yn nofio mewn cariad a hedd." Dair wythnos wedi hyn, daeth profiad cyffrous iawn imi Disgynnodd colomen wen eto ar sil fy ffenestr.

Gyda'r cynnydd mewn nofio tanddwr fel adloniant ym Mhrydain darganfuwyd llawer o drysorau ar hap ac mae mwy o hyn yn debyg o ddigwydd.

Fel Dysgu Nofio mae diweddglo'r gân yma yn drawiadol hefyd, wrth i'r piano a'r bît ddiflannu yn raddol, gan adael llais i ganu'r gytgan heb unrhyw offerynnau yn y cefndir.

"Ryda ni'n cael ein gwrthod rhag mynd i mewn i bob math o lefydd, o sinemau i dai bwyta a phyllau nofio.

"Wyddoch chi ddim eich bod chi mewn perygl bywyd yn nofio ar eich pen eich hun yn hwyr y nos?" "Perygl?

Cariai ei gwpan gyda'i dun bwyd mewn bag, a châi ei llond o ddwr poeth o gwt injian y bonc lle y digwyddai fod yn gweithio, yna fe wagiai hanner llond tun oxo o de a siwgwr yn gymysg ar ben y dwr a gosod ei law yn dynn dros y gwpan a'i hysgwyd yn iawn, ac er i'r dail fod yn nofio ar yr wyneb fe âi'r cwbl i lawr--ond y rhai a lynnai wrth ei fwstas.

Un o'r pethau roddodd ysgytwad i mi oedd sylwadau un o ferched y tîm nofio.

Mae hi yn ei helfen yn nofio tanddþr, gan blymio i'r dyfnderoedd mor aml â phosibl oddi ar arfordir Ynys Môn.

Braf hefyd oedd nofio yn y dwr clir, glas.

LIWSI: Rw'i wedi cael 'y newis i dîm nofio'r ysgol.

Genwair ddeg troedfedd ffibr carbon, rîl yn cario lein nofio AFTM.

"Mae'n rhaid i mi gadw fy nerth," meddai'n sydyn, gan roi heibio nofio'n ofer ar ôl ei long.

Jest dweud wrthot ti 'y mod i wedi cael 'y newis i dîm nofio'r ysgol.

Dyn y pwll nofio'n dod i Ysgol Fitzalan i achwyn wrth y prifathro 'beutu Sandy a fi; ein bod ni 'di pigo ar ryw grwt bach gwantan - babi mami - o blith y crachach.

Ar un adeg fe wyddai amryw ohonynt rywbeth am emynau ac am y Beibl, neu'n hytrach am adleisiau briw o'r pethau hyn yn nofio yn y gwynt.

WALI: (Yn simsanu gan emosiwn braidd) Ras gyfnewid a nofio ar dy gefn?

A hwnnw'n methu nofio.

Cyhuddodd Reg o ymyrryd yn rhywiol gyda hi mewn pwll nofio ond daeth yn amlwg yn ddiweddarach mai Mark oedd wedi talu iddi wneud y cyhuddiad.

Atodiad helaeth i'r Palas, gyda Siambr Gyngor ac ystafelloedd ymwisgo, a phwll nofio a baddonau sauna ac felly ymlaen?

Fydd gen i ddigon o nerth i ddal i nofio o gwmpas yn araf a chadw'n fyw tybed?" meddyliodd Douglas yn drist.

Ond nos Sadwrn diwethaf yr oedd yn ddigon teg i rywun holi tybed na fyddai wedi bod yn well cadw Pwll y Gymanwlad a chael y tîm rygbi i ganolbwyntio ar nofio yn hytrach nai weld yn suddo i'r iselderau o gêm i gêm.

Ond roedden nhw'n methu'n lan a deall pam roedd y Romans clyfar yma yn molchi a mynd i byllau nofio mor aml a hithau mor wlyb bob dydd.

Gwnaeth tîm nofio Prydain yn salach y tro hwn nad ar unrhyw adeg yn eu hanes.

Enwau'r traciau sydd ar Yr Eiliad Hon ydi Cân y Coleg, Hedfan Heb Adenydd, Pishyn Del, Y Ferch i Mi, Trist yw fy Stori a Nofio yn Erbyn y Lli.

"Mae'n rhaid i mi nofio oddi wrth y propelor," meddai wrtho'i hun yn wyllt, "neu fe gaf fy nhorri'n ddarnau.

Nid yw hyn o angenrhaid yn golygu dosbarthiadau cadw'n heini o'r math 'aerobig' egniol, mae'n golygu cyfnodau eithaf hir o weithgaredd lle nad ydych yn cael eich gwthio i'r eithaf e.e., cerdded yn eithaf cyflym, loncian ar gyflymdra cyfforddus, nofio neu seiclo.

Charlie oedd ei bartner cyson yn y pwll nofio.

Dangosodd fod llygod a borthwyd ar ginseng am fis yn medru nofio heb ddiffygio ddwywaith gyhyd â llygod na chafodd ginseng.

Y tro nesaf y byddwch chi'n paratoi nionod, gwisgwch gogls nofio ac fe ddowch drwy'r broses yn fuddugoliaethus ac yn sych eich llygaid.

Ceisiodd y Capten berswadio un o'r criw i neidio i'r môr a nofio o dan y dwr i weld lle roedd y llong yn gollwng.

Cyrhaeddod Diane Gwmderi yn Ionawr 1998 ar ôl i Emma gyhuddo Reg o'i chyffwrdd mewn pwll nofio.

Aeth â ni am ychydig o filltiroedd trwy goedwig dew nes inni ddod at wastadedd eang ynghanol y jyngl; yno safai Anghor Wat yn ei holl ogoniant wedi'i amgylchynu â llyn; yn y dþr gwelem ychen gwyllt yn nofio'n urddasol fel y gwelem ychen lawer gwaith o'r blaen yng ngwledydd De Ddwyrain Asia yn nofio yn unrhyw ddwr y caent afael arno.

Nofiai o'r naill lan i'r llall heb sylwi ar neb nac ar ddim ond y profiad barus o nofio.

'Ro'n i'n tynnu 'mlaen mewn dyddiau cyn dysgu nofio ac 'roedd hynny'n fwy o orchest na dim arall.

Erbyn cyrraedd y Foryd, mi oeddan ni wedi blino'n ofnadwy, ond chym'ron ni ddim arnon o gwbl er mwyn i ni gael mynd i nofio ar ein hunion.

HEULWEN: Ras gyfnewid a nofio ar ei chefn.

Yn y chwe-degau, â'r Arlywydd Kennedy yn diodda anhwylder i'w gefn, trefnodd y meddyg iddo fynd i nofio'n gyson.

a modelu mathemategol, astudiaethau nofio tanddwr, daeareg, bioleg a gwaddodoleg y deillia'r dulliau hyn.

Mae'r lliw yn dal i fod yn leinin fy ngwisg nofio er gwaethaf sawl golchiad.

Ar y dydd Gwener arbennig yma ddês i o'r ysgol yn llawn cyffro, gyda'r newyddion ffantastig am dîm nofio'r ysgol.

Dechreua'r trac agoriadol gyda swn dwr yn llifo ac mae'n agoriad effeithiol i'r gân Dysgu Nofio - un o uchafbwyntiau Clockwork.

Ystyriwch hyn: os megir cywion hwyaid o dan iâr, yr iâr honno yw eu mam ac fe'i dilynant i bobman gan ddibynnu arni'n llwyr am eu cynhaliaeth a'u diogelwch; serch hynny, yn gwbl groes i ymddygiad yr iâr, ni ellir rhwystro'r hwyaid bach rhag mynd i ddŵr a nofio ynddo.

"Roedd arna i awydd mynd i nofio fy hun, ac fe ddes i ofyn i chi hoffech chi ddod yn gwmni imi," eglurodd.

Gwnaeth llais cyfoethog Tom Slater a ganai ran Faust argraff arbennig, yr oedd fel nofio trwy fêl.