Wedi Statud Awtonomi Gwlad y Basg ym 1979, cafwyd Deddf Normaleiddio'r Iaith Fasgeg ym 1982.
Fel Cymdeithas, mynnwn fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru a'i fod yn hen bryd i'r Gymraeg gael ei normaleiddio fel prif iaith ein gwlad. Edrychwn at y Cynulliad i arwain a gweithredu strategaeth genedlaethol gynhwysfawr ac integredig fydd yn galluogi pawb yng Nghymru i gyfranogi yng nghyfoeth yr iaith gan fagu hyder cyffredinol ym mhwysigrwydd yr iaith Gymraeg.
Nod Kontseilua yw hybu'r broses o normaleiddio'r iaith Basgeg.
Mae gwledydd eraill sydd yn cymryd normaleiddio eu hiaith o ddifrif bellach yn gweld twf yn y niferoedd sy'n medru'r iaith ar draws y sbectrwm oedran er gwaetha'r pwysau cynyddol oddi wrth ieithoedd dominyddol y byd.
Nid cyfrifoldeb plant yw normaleiddio'r Gymraeg.