Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

normaniaid

normaniaid

Oherwydd gwelai Rhigyfarch y Normaniaid yn ail-lunio'r clas yn Llanddewi Brefi; ac yn wir nid oes gennym dystiolaeth bendant i'r clas oroesi'r cyfnewidiadau a ddaeth yn eu sgîl.

Yr oedd Normaniaid yn Sir Henffordd tua chanol yr unfed ganrif ar ddeg ac yr oedd Henffordd yn dref bwysig.

Ar ol gorchfygu rhannau helaeth o dde Cymru yn yr unfed ganrif ar ddeg a'r ddeuddegfed ganrif lluniodd y Normaniaid arglwyddiaeth o Frycheiniog a'i galw'n Brecknock, eu ffordd hwy o geisio ysgrifennu ac ynganu'r ynganiad lleol Cymraeg ar yr enw - Brechenog.

Yn ddiweddarach dioddefodd y clas lawer o dan ddwylo'r Normaniaid.

O gyfnod cynnar iawn galwodd y Normaniaid a'r Saeson y dref hon hefyd yn Brecknock neu Brechonia neu Brecon.

Am ganrifoedd, hawliai'r Eglwys Geltaidd ryw radd o annibyniaeth oddi wrth Eglwys Rufain, a pharhaodd gwahaniaethau rhwng ei defodau hi a rhai'r eglwysi Rhufeinig hyd ddyfodiad y Normaniaid.

Anifeiliaid a berthynai'n wreiddiol i diriogaethau o amgylch y Môr Canoldir yw cwningod, ond a gludwyd yma i Brydain gan y Normaniaid.

Roedd y sefyllfa'n drist ond, fel y dengys yr Athro Glanmor Williams, ceir tystiolaeth i rai eglwysi oroesi Oes y Normaniaid.

Aberhonddu oedd prif ganolfan yr arglwyddiaeth Normanaidd ac adeiladodd y Normaniaid gastell cryf yno.

Mae'n wir nad fel enwau mewn llyfrau hanes yr adwaenir hwynt gan lawer o'r cyhoedd: ychydig o'r bobl sy'n gyfarwydd â'r trefi hyn sy'n cofio bod y Normaniaid wedi ymosod yma, a'r Rhufeinwyr o'u blaen.

Credai W J Gruffydd, fel y dengys y cyfeiriad at y ffynonellau Ffrangeg yn y dyfyniad uchod, for yr Anglo-Normaniaid yng Nghymru, yn arbennig yn Neau Cymru, wedi noddi beirdd o Gymry a beirdd o Norman- Ffrancwyr, fod y ddau ddosbarth o feirdd wedi dylanwadu ar ei gilydd, ac mai'r prif ddylanwad a ddaeth ar y Cymry ydoedd dylanwad y mudiad barddonol a reiddiodd allan o Ddeau Ffrainc, hynny yw, dylanwad y mudiad trwbadwraidd.