'Ond mae'n nosi.
Yr oedd hi'n dechrau nosi nawr ac ni allent weld ond ffurf y tŷ mawr rhyngddynt â'r awyr, rhiw silŵet llwyd ar "sgrin" ruddgoch y machlud tua'r de-orllewin.
Mae'r lleidr yn gosod deg neu ugain hwyrach o'r cewyll gwifrog yma yn y pentref bob nos wedi iddi nosi, ac yna mae'n mynd o gwmpas i'w casglu yn y bore bach.
Roedd hi'n dechrau nosi ac efallai mai dyma'r rheswm paham fod y morwyr yn awyddus i ddychwelyd i'r llong.
Digon gwasgaredig oedd y tai a'r bythynnod, ac wedi iddi nosi fyddai yna ddim golau heblaw'r lleuad, os o gwbl.
Tua'r Nadolig, gan nodi'n fanwl y dydd o'r mis, wedi iddi nosi ac i'r sêr ddod i'r golwg, aeth i weirglodd Ty'n y Gilfach, gan ddwyn polyn gydag ef, a gosododd y polyn mewn llinell unionsyth â simnai y tŷ a rhyw seren sefydlog yn y gogledd.
Mi fyddai'n nosi cyn hir; tir anhysbys oedd llwybr y camelod ac roedd y petrol ar fin cyrraedd pwynt dim dychwelyd Roeddent eisoes wedi treiddio ymhellach i'r anialwch nag y gwnaeth neb mewn modur o'r blaen.
Ma nant barablus yn 'i ymyl e, a thylluanod yn pwyllgora yn coed-cefen-tŷ wedi iddi hi nosi, a phe bai popeth yn iawn, fe fyddwn i wedi cynghori Luned i adel y lle a mynd i fyw i rywle arall.
Mwy o gyffro a ffwdan wedyn i hel ein trugareddau at ei gilydd cyn ei bod yn nosi'n llwyr.
Yr oedd ci llwynog bach o gwmpas ac meddai John yn llawn athrylith am anifeiliaid: "Mi 'rwyt ti'n berffaith iach, y baw, mae dy hen nosi di'n reit oer." A byddai'r plant yn teimlo trwyn pob ci ar ôl hyn os byddai rhyw arwydd o salwch arno i weld a fyddai ei "nosi yn oer." A minnau wedi dechrau sôn am John Preis daw llawer hanesyn i'r cof am ei ymweliadau mynych â ni.
Datblygodd Gittins y cymeriadau hyn yn llwyddiannus, gan greu brithwaith bywiog o fywyd dinas wedi iddi nosi.
Beth petai'n nosi cyn i Tudur a'i dad ddychwelyd, meddyliodd wedyn.
Roedd hi'n nosi, a neb i'w weld yn cerdded ar hyd y lôn unig oedd yn arwain at ddrws y caban.
Serch hynny, roedd hi'n nosi'n braf ac oedodd pawb y tu allan ar ol i'r marchlud orffen ysgythru hetiau-dewin pigog y Silvretta yn ddyfnach eto i'w cefndir o ros golau.
Tynnai at derfyn ei daith; yr oedd yn nosi drachefn.
Mae'r tŷ'n edrych dipyn yn - yn - dywyll am 'i bod hi'n dechreu nosi ac am 'i fod e lan fanna ar ben y graig.
Cyrhaeddodd Jim a minnau y Pwll Defaid fel yr oedd yn nosi.