Teimlwn yn druenus iawn y noswaith honno.
Un noswaith cytunodd y merched i ganu a dawnsio i ddiddanu dynion y ddwy garfan, ac El Hadad yn eu plith, er mwyn dathlu cytundeb ynglŷn â thâl am ddŵr y ffynnon ac am waith y gobeithient ei gael o ddwylo'r gof.
Daeth Bedwin ar gefn camel i'r gwersyll un prynhawn mewn brys gwyllt i ddweud bod patrol yn symud yng nghyfeiriad gwarchodwyr y criw, a'i fod wedi aros, am y noswaith mae'n debyg, rai milltiroedd i ffwrdd.
Pleser digymysg oedd eistedd ar y staer yn y tū lle 'roeddwn yn aros i wrando ar John Nicholas yn canu'r piano ar ryw noswaith dawel o haf yn y dyddiau cyn y rhyfel diwethaf.
Yn ystod y gwyliau fe gymerwyd y famgu yn wael ac fe brynwyd aspirin iddi a moddion arall ond ni fuwyd at y doctor lleol o gwbl, ac yn sydyn rhyw noswaith gwaethygodd ei chyflwr yn ddisymwth, a bu farw.
Yn hwyrach y noson honno a ninnau ar ein trydydd peint edrychasom eto ar Iwerddon a chofio mai arweinydd mudiad yr iaith a ddewiswyd yn Llywydd cyntaf y Weriniaeth, ac yna treuliasom noswaith ddifyr yn dyfalu pa un o'r tai bonheddig yng Nghymru a fyddai orau gennym fel plas i'n llywydd, a pha un ohonynt a ddylai fod yn Chequers Cymru.
Ddim yn licio'r gwir pan glywi di e.' 'Edrych 'ma gw'boi,' roedd dwylo Dilwyn allan o'i bocedi bellach, 'dyweda di un gair arall am Rhian ac mi ladda i di, fel y dywedais i'r noswaith o'r blaen.'
Yn hwyr y noswaith honno wedi treulio diwrnod digon diddan efo Mali a'r plant, cychwynnodd Merêd a Dilys am Gaergybi i ddal y llong hwyr am Iwerddon.
Yn nhawelwch y Lotments un noswaith, a'i hoff arddwyr o'i gwmpas yn drist eu hwynebau ac yntau'n dal clamp o wnionyn braf yn ei law, cymerodd y Brenin Affos lw y gwnai ei orau i gadw'r wnionyn a'r Lotments rhag dinistr dan law'r datblygwyr.
Oedd e'n waith caled, yn enwedig yn yr Almaen, o'n i'n trafaelu o Frankfurt i Stuttgart mewn noswaith, gwneud y sioe a 'nôl eto'r diwrnod wedyn.
Roedd pawb yn gweithio pump noswaith, felly os oedd y daith yn un bump diwrnod neu yn bythefnos dim ond pump diwrnod oedd pawb yn gweithio...
Yr oedd yr hen gadair yn wag; ac wrth ei hochr, ar y pentan llydan, yr oedd y bibell, yn gymwys yn yr un fan ag y dodwyd hi pan ddefnyddiwyd hi ddiwethaf bedwar diwrnod cyn y noswaith honno.
Abertawe'n fflam am dair noswaith yn Chwefror, 230 yn cael eu lladd, a dinistriwyd canol y dref.
Cafwyd noswaith ddifyr a rhoddwyd croeso hefyd i Mr Cledwyn Jones mab Mr a Mrs Haydn Jones, Cil-y-Garth o Galgari, Canada oedd ar ymweliad a'i dad, sydd yn wael yn ysbyty Minffordd.
'Noswaith y cyllyll hir' yn yr Almaen pan laddwyd nifer o wrthwynebwyr Natsïaeth gan y Gestapo a chefnogwyr Hitler.
Mae mam yn rhywle gan bob un o'r bechgyn hyn - a thad, a chwiorydd, a brodyr - wedi colli, mae'n dra sicr, lawer deigryn ers pan adawsant eu cartref - wedi treulio llawer noswaith heb gysgu.
O'r diwedd dyma gyrraedd pen stryd y ferch, ac ar ôl stopio, dyma'r gyrrwr yn troi i ddymuno noswaith dda iddi - ond, roedd y sedd yn wag!