Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

noswylio

noswylio

"Gyda rhai o'r plant yma, does yna neb adref i'w disgwyl o'r ysgol felly maen nhw'n dod yma i ladd amser nes bydd eu rhieni wedi noswylio o'u gwaith," eglurwyd imi.

'Chei di ddim noswylio'n gynnar heno, Now Fawr.'

Bendith nid bychan oedd medru cysgu'n dawel trwy un noson, ac yr oeddwn i yn ffodus yn hyn, er nad oedd dim sicrwydd byth wrth noswylio pa fath o noson a gawn.

Un noson, a minnau yn fy nghaban yn paratoi i noswylio, daeth un o'r Siapaneaid i mewn ar sgowt i weld fod popeth mewn trefn, ac eisteddodd ar ochr y gwely yn f'ymyl.

Ac yna dyma ddychwelyd i'r gwersyll, i noswylio, gan obeithio am well hwyl ar gysylltu â'r Cristnogion yn y bore.

Cafwyd sgwrsio a chwerthin a chanu - i gyd yn amlwg wrth fodd Dilys, cymaint felly fel iddi wrthod yn lân - gadael y cwmni pan awgrymodd Merêd tua hanner nos ei bod yn amser noswylio.

Dychmygai'r rhedeg penysgafn hyd lwybrau'r mynydd, y llawenydd o weld y tū o bell, yr edrych ymlaen at groeso mam ac at oriau o chwarae cyn noswylio.

Ond pan ddaeth hi'n bryd noswylio, ac ar ôl i'r tyrfaoedd ymwasgaru, fe ddisgynnodd rhyw brudd-der dwys ar Idwal.