Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nrws

nrws

Dyna pam roedd o'n sleifio i weld y fuwch dan sylw bob awr o'r dydd a'r nos ac yn sbecian trwy hollt yn nrws y beudy rhag rhishio'r fuwch.

Yn yr un modd, yn Gaeaf yn Nrws y Coed, a'r eira yn blanced wen yn gorchuddio'r byd, gwelir ambell i ddafad yn crafu am welltyn glas ac yn llwyddo i gyfleu y ddelwedd gydnabyddedig o'r ddelfryd o'r gaeaf.

Mae llawer mwy o fanylder yn narluniau Gwyneth ap Tomos fel y dyfnder sydd yn y coed yn Gaeaf yn Nrws y Coed.

'Yr wyf yn cofio yn dda un prynhawn Sadwrn pai yn yr haf,' meddai, 'bod fy ewythr Dafydd Caeglas, yr hwn oedd yn ddyn effro a blaenllaw iawn gydag addysg yn yr ardal, yn sefyll yn nrws yr offis ac yn cynnig fod y gweithwyr yn talu ceiniog yn y bunt at roi ysgol i'r plant.

'Roedd Dewyrth Dafydd yn bump oed ar y pryd ac yn cofio amdano'i hun yn sefyll efo'i fam yn nrws Crowrach a chlywed yr ardalwyr yma ac acw hyd yr ardal yn bloeddio 'Elin, Elin'.

Ond fe ddaeth o'r diwedd, wedi i mi fod yn sefyll yn nrws y cefn yn nannedd y gwynt yn gweiddi "Pws?

Pan oedd Capel Ebenezer yn cael ei adeiladu byddem yn mynd yno yn aml i chwarae, ac rwy'n cofio un diwrnod weld yr hen Robaits yn nrws yr ysgol, a'r ysgolfeistr yn troi ac yn edrych arna i, a phan ddaeth yn ol at y dosbarth, cefais fy ngalw allan, a methwn wybod beth oeddwn wedi wneud.