Yma mae henaint heulwen yn chwarae mig â llwydni nudden Mai ac yn ymuno â hi i Hingo pennau'r mynyddoedd crychlyd sydd yn creu math o gaer i Stanley .
Er hyn, allan o'r holl elfennau, y nudden sydd yn deimladwy ac yn cyflwyno bendith i ddiogelu yr ennyd sydd yn ddi-ofn am fod yr Hariers a holl awyrennau hynod y Sais yn sefyllian mewn gwyll unig, a pheiriannau peryglus yr Argies: y Super Etendards sydd yn cludo'r Exocets.