CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Iechyd Amgylchedd fod y wasg wedi dangos cryn ddiddordeb yn adroddiad NURAS ar yr Arolwg Cyflwr Tai yn y Dosbarth a gyflwynwyd i gyfarfod arbennig o'r Pwyllgor ac ymatebwyd i nifer o holiadau ganddynt.
Yr oedd staff yr Adran Iechyd Amgylchedd wrthi'n cywiro'r adroddiad drafft a dderbyniwyd gan NURAS a phan dderbynnid yr adroddiad terfynol fe anfonnid copi ohono i'r Swyddfa Gymreig ac i'r Aelod Seneddol.