Enghreifftiau yw Arthur ap Pedr yn Nyfed ac Arthur fab Aeddan ap Gafran yn nheyrnas Dal Riada Ysgotaidd yn yr Alban.
Yr oedd y ffrae hon braidd yn drist oherwydd yr oedd y teulu'n prysur ymsefydlu fel prif noddwyr y blaid brotestannaidd fwyaf blaengar yn Nyfed.
Mewn ymdrech ar y cyd rhwng staff ymgynghorol AALl Dyfed, Albion Concrete, Pwyllgor Tywysog Cymru, yr ysgolion ac Uned o'r Fyddin Diriogaethol, mae nifer o ysgolion yn Nyfed wedi derbyn pibellau draenio enfawr.
Yn Nyfed, er enghraifft, ni fu polisi iaith cynradd clir a chadarn gan yr awdurdod addysg.
Gallai Cymraes a ddymunai fod yn lleian ddewis ymuno â lleiandy bychan Sanclêr yn Nyfed neu ag un o'r ddau leiandy Sistersaidd yn Llanllyr, Dyfed, neu Lanllugan, Powys.
Cysgu roedd ef mewn ogof rywle yn Nyfed, ac fe ddeuai'n ôl ryw ddiwrnod i achub ei bobl pan fyddai ei angen, ac i hawlio ei etifeddiaeth fel gwir Dywysog Cymru.
Ond ni chafodd y Gwyddelod eu concro'n llwyr oherwydd pan aeth Dewi Sant (ac fe ddywed traddodiad ei fod ef yn ddisgynnydd i Geredig) i deithio yn Nyfed gwelodd fod elfen Wyddelig amlwg yno, yn union fel yr oedd yng Ngogledd Cymru pan ddaeth Cunedda yno ganrif ynghynt.
Neu fel y d'wedwn ni lawr yn Nyfed roedd hi'n DOBINO ar Domos.