Os gwelaf, ar ôl imi gael amser i ystyried y mater, mai fy nyletswydd ydyw aros yma, mi rof fling bythol i'r pregethu; ond os fel arall, ni all dim fy atal rhag mynd yno.
Ond heno nid ydwyf yn gweld yn eglur beth ydyw fy nyletswydd, ac nid wyf yn dewis siarad ar y mater.' ' ``Gweddi%a am oleuni, ynte,'' ebe Dafydd, a chododd i fynd adref.