Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

nyth

nyth

Drwy gyfrwng y colofnau hyn, bu Dewi Mai yn weithgar iawn yn ennyn diddordeb y cyhoedd gyda sawl sylw dadleugar, trwy drefnu nifer o gystadlaethau, ac ambell waith trwy fentro cyhoeddi rhestr y gwyddai'n iawn a fyddai'n debyg o dynnu nyth cacwn i'w ben.

Wedi i bawb fachu gwely yn un o'r stafelloedd - Y Nyth (bechgyn), Y Ffae (merched), a'r Twll (chwyrnwyr), agorwyd y penwythnos gyda thrafodaeth ar y flwyddyn a aeth heibio.

Defnyddir y trosiad o'r cyw yn gadael y nyth i gyfleu'r sefyllfa yma, ond teimlwn fod y diweddglo braidd yn ystrydebol.

Ein Dr Redwood annwyl ni: sws- iddo-bob-amser; y Blwbyrd cu, cyfeillgar (llawn hwyl a sbri a thynnu coes) a'i newydd nyth yng Ngwydir Haws (a Weilz).

Yr iâr yn unig sy'n eistedd ar yr wyau gan fod ei lliw brown tywyll yn ei galluogi i ymdoddi'n rhwydd i'r cefndir grugog, ond byddai'r ceiliog, gyda'i blu llwyd yn sicr o dynnu sylw at safle'r nyth.

Mae'n wir i amryw un, o Saunders Lewis i Hywel Gwynfryn (yn Melltith ar y Nyth), ailgyflwyno'r chwedlau yn y Mabinogi mewn modd sy'n denu chwilfrydedd meddylwyr Freudaidd neu Jungaidd, gyda'u diddordeb yn y wedd rywiol i bethau, a'r amwysedd a'r diffyd rhesymolder sydd yn y chwedlau ym mherthynas pobl neu greaduriaid â'i gilydd, a'r symud sydd rhwng y byd greddfol, anifeilaidd, a byd dynion a'u defodau a'u hawydd i roi trefn ar bethau.

Ond mae cynlluniau'r corff rheoli Cymreig FAW wedi tynnu nyth cacwn i'w pennau ac wedi creu rhwyg o fewn rhengoedd y bêl gron.

Beth bynnag, wn i ddim yn union ar ba gangen o'r goeden achau dwi'n sefyll ar hyn o bryd, os newch chi faddau i mi am gymysgu delweddau am eiliad; wn i ddim os ydw i yng nghorlan y defaid gwynion neu'r defaid duon ('da chi'n gweld, roedd hi'n anodd gosod dafad ar goeden, neu frigyn, neu mewn nyth, yn doedd?).

Mae rhywbeth mwy treisiol a dinistriol, ar y llaw arall, yn gorwedd islaw diwethafiaeth byd Gwilym Meredydd Jones, ac mae casineb oeraidd y stori-deitl, Chwalu'r Nyth, yn iasoer yn ei diffyg tosturi.

Yn y tyllau hyn bydd nyth diddos o laswellt yn gymysg â blew'r fam, a bydd hithau yn mynd yno bob nos i roi llaeth y frest i'r cywion ac wrth ymadael yn gofalu cau ceg y twll gyda phridd fel nad yw'n hawdd canfod y fynedfa.

Efallai mai'r hen Nan Elias oedd wedi dwndran gormod arno; y hi'n iâr un cyw ac yntau'n hen lanc, heb ddangos unrhyw awydd i adael y nyth.

Aderyn y gweundiroedd agored ydyw, gyda'r iâr yn dodwy rhwng tri a saith þy glaswyn mewn nyth llac ei adeiladwaith, ynghanol y grun.

Popeth yn disgleirio, popeth yn gweitho fel cloc, a dim plant obiti i neud nyth llygoden o'r lle!' 'Na - tynnu dy goes wen i wedyn.

Mae cyw wedi ei godi mewn nyth ar fferrn ym Mhen Llþn yn treulio'r Gaeaf yn Affrica, ond mae yn dod yn ôl i'r union nyth y'i magwyd ynddo, y Gwanwyn canlynol.

Bridio a Mudo Mae ceiliogod y pincod yn rhai craff iawn, neu mae'r iâr braidd yn gysetlyd gan mai hi sydd yn adeiladu'r nyth ac yn deor yr wyau.

Nyth hen yr heniaith annwyl, Gwlad telyn, englyn a hwyl, meddai'r Parchg Huw Roberts yn ei gywydd i Uwchaled.

Mae'r dryw yn aml yn adeiladu'i nyth mewn wal gerrig wedi'i gorchuddio ag iorwg, ac mewn llwyni trwchus.

Deud wrtho fo am fynd yn ôl i'w nyth yn y gogledd lle mae wyau'r glaw yn deor fel ffynhonnau gwynion, tydan ni ddim isio'i fath o ffordd hyn.

Rheibio yw un o'r prif resymau am fethiant nyth, yn enwedig lle mae'r nythod o fewn neu yn agos at goedwigoedd conifferaidd.

Peidiodd ffrindiau â galw, wrth iddynt warchod eu hepil a phluo eu nyth.

A gwag hefyd nyth y wennol.

Ffaldi-rai-tai-to, mae'r Blw-byrd (dur) ar ben ei ddigon hefo Cymru fach - fel y gwcw lawen lwydlas ar ei nyth newydd, ac yn wir yn Sonnig, ar lannau Tafwys dlawd y trig mewn bwthyn bach distadl, yntau yno wedi agosa/ u cryn filltiroedd at Gymru o fro ei febyd yng Nghaint, wedi symud yno'n fwriadol i ragddisgwyl am y job.