Gwynn Jones y byddai ef farw'n fuan, daeth y golomen i arwyddo bod "dyddiau fy anwylyd yn dirwyn i ben." Ni ddeallwn i arwyddocâd y golomen, ond deallasai fy nyweddi.
Aethai yntau "i wynfa'r haul at yr anfarwolion." Pan glywais am farw fy nyweddi, y geiriau a ddaeth i'm meddwl oedd: Safodd yr Iesu ar y lan.
Un bore, wrth ddihuno, gwelais golomen wen yn disgyn ar sil fy ffenestr Wrth edrych arni, meddyliais am y lleianod wrth y llyn, am fy nyweddi ac am rai eraill a oedd wedi marw, yr oedd cwlwm ysbrydol rhyngof a hwy.
Yn fy ngalar a'm hiraeth, gwyddwn pe bawn yn medru derbyn marw fy nyweddi heb deimlo'n anfodlon a heb chwerwi, y byddwn wedi datblygu'n ysbrydol.