Chum mawr i mi wyddost ti.' ''S'gin i ond gobeithio, Syr, y medrwch chi gysuro'i weddw o yn 'i hadfyd.' 'Paid ti â poeni am hynny, Obadeia Gruffudd.
Dyna pam roedd Sydna, y forwyn fawr, yr eiliad honno, ar riniog y drws ffrynt yn ceisio boddi y gofid â'i chroeso a'r hwsmon, Obadeia Gruffudd, ar ei liniau ar lawr cegin y gweision yn chwilio am feddyginiaeth wahanol.
'R'on i wedi ryw how feddwl, wedi i mi gyrradd Tu Hwnt i'r Afon, y baswn i'n ca'l cyfla i roi dwr i'r 'ffyla cyn mentro'r allt 'na.' Ond fe wyddai Obadeia, yn rhy dda, am fynych wendid y coetsmon a mentrodd ei atgoffa o hynny.
Wedi cael cefn Pyrs teimlai Obadeia Gruffudd ei bod hi'n ddyletswydd arno i ailgydio yn y weddi ond fel roedd o'n hwylio i ddisgyn eilwaith ar ei liniau daeth y Parchedig John Jones, person plwy Llaniestyn i mewn, a hanner baglu dros y gist ddillad yr un pryd.
'Wel, Obadeia Gruffudd, os nag ydw i'n camgymeryd.
A merched o ran hynny.' 'Roedd y Parchedig Rees Harris yn dweud wrthon ni, wsnos yn ôl, ma' nid â phapur ac inc y ma'r Duw byw yn sgwennu ond ar lechau cnawdol y galon.' 'Indeed.' Un o gasbethau'r Parchedig John Jones oedd gwrando ar blwyfolyn fel Obadeia Gruffudd yn dysgu pader i Berson.
Dyn ar 'i linia, gefn dydd gola.' Cydiodd Obadeia Gruffudd ym mraich y setl, yn ffrwcslyd, a thynnu'i hun i godi mor frysiog â phosibl.
Fodd bynnag, roedd gan Obadeia Gruffudd faich gwahanol ar ei ysbryd.