Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

obaith

obaith

Ac mae cymaint o'n pobl heb waith, heb gyfeiriad ac heb obaith.

Brandon ac eraill, fe welir yn fwyfwy eglur mai amhosibl yw deall ei obaith diwethafol heb sylwi ar y cysylltiad rhyngddo â chenedlaetholdeb Israelaidd ei oes.

Ni welent ychwaith obaith y gwþr a'r gwragedd am y dyfodol, eu gofal dros eu plant, na'u paratoi wrth hau a medi.

Gras, o seren fach, dyna'r unig obaith am fyw gyda dyn ar dân.

Pan oedd neb o gwmpas, mi'r oedd pethau'n go dawel, er yn amal mi fyddai 'na ryw gnofa eiriol rhwng y ddau, ond y tro yma roedd y cydddealltwriaeth mor berffaith a chrefydd y Piwritaniaid, ac roedd 'na obaith am lasiad yn y fargen, 'dach chi'n gweld.

Ond pa obaith oedd ganddi yn erbyn aelodau darbodus Undeb y Mamau?

Eu hunig obaith am loches oedd trwyn o graig ychydig bellter i ffwrdd a gyrasant eu ceffylau ato.

Dechreuodd yr ymgyrch gyhoeddus gyda rali fawr a drefnodd ar lannau Tryweryn, lle y rhoddais rybudd mai unig obaith llwyddiant oedd ymgyrch nerthol iawn cyn i'r mater gyrraedd y Senedd.

Daeth y Cymry, nad oedd neb yn rhoi unrhyw obaith iddyn nhw, o fewn hanner at greu y sioc fwya mewn unrhyw gamp erioed.

Nid oes obaith fyth fythoedd i Lywodraeth Whitehall fabwysiadu safbwynt Cymreig.

Heb hynny, pa obaith fyddai gan y gwrandawyr i'w ddeall ?

'Fawr o obaith am hynny!' 'Ond mae o'n ôl,' meddai Myrddin yn llawn cynnwrf.

Bygwth taeogrwydd a diniweidrwydd y gorchfygedig ac anwybyddu ei obaith ffug a'i ymgreinio.

Ond ein hunig obaith yw dod o hyd i ambell ddelwedd i'w troi yn rhan o'n bywydau, rhan o fytholeg ein bywydau, i aros yn y cof, ynrhan o frethyn ein cyfansoddiad.

Os byddai myfyriwr yn gweiddi gormod neu'n siarad yn rhy ddistaw, fyddai dim llawer o obaith am gyhoeddiad i hwnnw.

Nid oedd obaith mynd allan i doi cwt yr ieir, oherwydd y tywydd, a bodlonais, fel rhywun wedi ymddeol, ar eistedd yn ddigywilydd ganol y bore i edrych ar y teledu.

Yno byddent mewn perygl o gael eu lladd, ond dyna'r unig le lle'r oedd rhyw obaith am fwyd, os caent drugaredd.

Nid oedd yr ardal yn un boblog a chofiaf Ernest Roberts yn pwysleisio droeon petai Pwllheli yn methu talu ei ffordd, y byddai hynny'n ddiwedd ar unrhyw obaith am gynnal y brifwyl mewn cylch gwledig o hynny ymlaen.

Awgrymodd na ellid gosod dim ymddiriedaeth ynddynt fel pobl, ac nad oedd fawr o obaith iddynt feithrin gogwyddiadau gwareiddiedig.

Eu hunig obaith oedd cael eu darganfod gan batrol mentrus o'r fyddin.

Mae'r genhedlaeth hon yn obaith i uno'r gwledydd Arabaidd.

Yn awr, wedi i Gwyn fynd y tu hwnt i obaith, hwyrach y byddai pethau'n troi o'n plaid.

Nid oes gennyt obaith nofio i'r lan ond fe weli gangen yn pwqyso'n isel dros yr afon.

Ond am gyfnod neithiwr roedd yna obaith y byddai'r dyn bach yn llwyddo.

Rhaid i dîm Mark Hughes ennill y gêm ragbrofol hon yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd, os oes unrhyw obaith iddyn nhw gyrraedd y rowndiau terfynol.

Mae yna o leiaf obaith y gallwn ni wneud hynny eto.

Fy argyhoeddiad personol yw fod syniadau an-Feiblaidd a hiwmanistaidd wedi gweithio fel cancr yng nghalonnau llu mawr o grefyddwyr ac nad oes obaith gweld adferiad heb edifeirwch diwinyddol a dychwelyd at "y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint".

Ni welai Rhigyfarch lygedyn o obaith o gyfeiriad yr uchelwyr na'r arweinwyr o achos darostyngwyd y gorau a'r mwyaf urddasol ohonynt yn daeogion.

Tra bod yna lygedyn o obaith bydd Cymru'n brwydro ymlaen.

'Wel, rhen foi, os 'dach chi am ein cael ni'n rhydd o fan hyn, mi fydd yn rhaid i chi neud gwyrthia go iawn,' meddai Geraint heb fawr o obaith yn ei lais.

Os nad oedd arweinwyr y bobl yn gwybod beth oedd yn digwydd, doedd fawr o obaith gan newyddiadurwr ar ymweliad brys.

Pa ryfedd fod y gerdd yn gorffen trwy ail-lunio'r cwpled elegiaidd a ddefnyddiodd cynt: Ba enaid ŵyr ben y daith?- Boed anwybod yn obaith!

Os oedd ei ragflaenydd, Raul Alfonsin, wedi methu'n llwyr ag achub y wlad o'i thranc, pa obaith oedd gan ddyn byr, hyll yr olwg, i gyflawni gwyrthiau?

Unwaith neu ddwy meddyliodd am gymryd y goes oddi yno ond wedi syllu ar goesau hirion Mwsi gwyddai nad oedd obaith iddo fedru dianc.

Bydd felly obaith na thry ef ddim byd amgenach na thudalen llyfr, ac y cyfyngir ei aredig i dorri cwysi dyfnion ar dalcennau hen ffermwyr anhydrin.

Ambrose Bebb hefyd ddod o hyd i lygedyn o obaith.

Yn etifeddiaeth ysbrydol ei genedl gwelai obaith y byd.

Ond roedd y gobaith yn dal, roedd rhyw fymryn o obaith am adferiad a pharhad y Ffydd a'r achos, hyd yn oed os mai cul ydoedd fel y stribedi o olau a ddihangai rhag caethiwed y llenni duon, trwchus, dros y ffenestri.

Nid oedd obaith cael gan Lywodraeth Lloegr gydnabod hawl fel hon.

Nid oes fawr o obaith y daw dim o werth oddi wrth na'r Cyngor na Thy^'r Cyffredin.

Os yw llefydd a allai fod yn ffrwythlon yn dal i ddirywio, pa obaith sydd gan ardaloedd y sychder mawr?

Neil Kinnock a ddywedodd yr wythnos diwethaf nad oes gan William Hague obaith yn y byd bod yn Brifweinidog - oherwydd ei fod on foel ac nad yw pobol foel byth yn trechu rhai gwalltog mewn etholiad.

Yr oedd y Dyneiddwyr yn gyforiog o obaith.

Y meddwl oddi tan y gofyn yw mai ofer brwydro heb obaith.

Tra pery drysau'r Stiwt dan glo nid oes fawr o obaith y digwydd hyn.

Dyna obaith y miliwn o Gubaniaid alltud yn Florida oedd yn paratoi'n frwdfrydig ar gyfer diwedd teyrnasiaeth Castro.

'Mae gan bob un o'r pum neu chwech chwaraewr yna obaith da iawn.

"Yn ôl â ni i chwilio amdano," meddai hwnnw'n syth er nad oedd ganddo fawr o obaith dod o hyd i Douglas yn fyw.

Nid rhyw Ffenics adeiniog o obaith ac ymroddiad, ffydd a phenderfyniad a gododd o lwch y tan yn Llŷn, ond iargyw o bryder ac ofn a thaeogrwydd di-asgwrn cefn.

Byddai gobaith da i lawer cyngor gefnogi'r cynllun, o'i gyflwyno iddynt gan ryw gyngor arall, ond nid oedd fawr o obaith am gefnogaeth pe deuai'r cynllun gerbron â label y Blaid arno.

Wrth lanhau'r Deml yr oedd yn cyflawni gweithred sumbolaidd yn null yr hen broffwydi i ddwyn i'r amlwg y wedd fydlydanol ar obaith Israel, yr awydd am weld teml ei ffydd yn yr unig wir Dduw yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.

Ond roedd yn rhaid ennill ugain o docynnau ar gyfer un ffrwyth, a doedd fawr o obaith i neb wneud hynny.

Mae llygedyn o obaith o hyd, meddai, ac mae'n rhaid cadw i fynd.

Nhw, felly, yw'r unig dîm o Gymru ag unrhyw obaith o gwbl i chwarae mewn rownd derfynol bosib yn Stadiwm y Mileniwm.

Iesu oedd 'i holl fyd e, a phan groeshoeliwyd Iesu, teimlodd Tomos golled bersonol, yn fwy na'r lleill; ei hapusrwydd, ei obaith a'i hyder yn ffradach y cwbwl ar ben.

Dyna'r math o waith sy'n mynd ymlaen yn dawel - a dyna'r unig obaith i wledydd fel Ethiopia yn y pen draw.

Yn yr Ail Adran collodd Bristol Rovers. Mae hyn yn rhoi'r mymryn lleia o obaith i Abertawe y gallan nhw osgoi disgyn yn ôl i'r Drydedd Adran.

Mae llygedyn o obaith o hyd, meddai, ac mae'n annog cefnogwyr Cymru i fod yn amyneddgar.

Ceir yr un math o obaith angerddol yn Nuw yng nghaniadau Mair a Sacharias lle y cyfunir y dyheadau am ymwared cenedlaethol a chyfiawnder cymdeithasol.

Yr unig obaith a welodd E.

Dangoswyd y byddai angen £40m ac mai'r unig obaith oedd i'r Cyngor ffurfio Menter Cyllid Preifat.

Darlunnir y math yma o obaith cenedlgarol yn brydferth yn stori'r Geni yn Luc.

Dacw'r nefoedd fawr ei hunan 'N awr yn diodde' angau loes, Dacw obaith yr holl ddaear Heddiw'n hongian ar y groes; Dacw noddfa pechaduriaid, Dacw'r Meddyg, dacw'r fan Caf fi wella'r holl archollion Dyfnion sy ar fy enaid gwan.

Mae Rhagluniaeth yn awr yn eu dysgu trwy brofiad peth mor chwerw yw bod "heb obaith ac heb Dduw yn y byd".

Roedd yna obaith i Forgannwg ar ddechrau batiad Derby.

Mae talcen caled gyda ni i fynd - mae yna dime da yn Ewrop ond o leia mae tactege Mark Hughes yn dangos bod rhywfaint o obaith da ni.