Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

obeithion

obeithion

Gall ffermwr o'r trydydd byd fod yn ffigur niwlog gyda'i broblemau a'i obeithion yn ddieithr iawn inni - ond wedi inni weld ei wyneb yn eglur a chael cip ar ei deulu a'i gartref a'i gefndir yna daw yn berson y gallwn ddod i'w adnabod.

Dychwelodd Stevens yn sionc i Sheffield neithiwr ac fe ddylai fod yn dawel hyderus ynglyn â'i obeithion yn y gêm.

Ffarwel, felly, i obeithion Wrecsam o gyrraedd y gemau ail gyfle.

Mae Henry, fydd yn hyfforddi'r Llewod ar y daith i Awstralia, wedi dweud na fydd gohirio gemau Iwerddon yn amharu ar obeithion eu chwaraewyr nhw o fynd ar y daith.

Wedi diweddu gobeithion Leyton Orient o esgyn i'r Ail Adran ddydd Sadwrn siawns nad yw Mansfield bellach wedi rhoi pen ar obeithion Caerdydd o ennill y bencampwriaeth.

Buasai hynny wedi codi gormod ar ei obeithion.

Rowland Hughes adref i Gaerdydd o'r Nature Cure Clinic yn swydd Bedford, â'i obeithion am adferiad iechyd oddi wrth yr afiechyd blin a'i poenai, yn chwilfriw.

Tra bydd ef yn prysuro ymlaen yn uchel ei obeithion bydd hithau'n codi a diflannu gyda'r gwynt yn wrthgefn iddo.

Dinistriwyd y byd hwnnw gan y Rhyfel Byd Cyntaf, a phan oeddynt yn dechrau dadebru ar ôl y chwalfa torrodd yr Ail Ryfel Byd ar eu gwarthaf, gan chwalu'r holl obeithion am amgenach byd.

A mae'r trefnwyr wedi gofyn i gefnogwyr Richard Burns beidio gwneud dim allai effeithio ar obeithion Marcus Gronholm o orffen y rali.

Mae angen ymroddiad ynglwm â disgyblaeth ac mi allai perfformiad ddatgan mwy am obeithion hir dymor Cymru na thriphwnt yn Kiev.

Ond roedd hi'n anodd iawn tywallt dŵr oer ar obeithion eirias y to ifanc.

Yn agos at ddiwedd canrif, pan oedd safonau byw a gwaith wedi gwella tu hwnt i holl obeithion yr ymgyrchwyr cynnar, 'roedd Ieuan Wyn yn ein hatgoffa nad oes ystyr i fuddugoliaethau heddiw na llwyddiannau yfory heb gofio am frwydrau ddoe.