Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ochrau

ochrau

Codai Phil y senglen at fwrdd y shêr, cymhwyso'r ochrau a'i rhoddi dan y gwasgwr.

Mae'n holl bwysig fod cyswllt rhwng yr ochrau hyn gan mai nhw sy'n pwysleisio fod Datblygu a Rheolaeth yn rhan annatod o Tai Eryri.

Yr oedd yn rhaid i'r gweithiwr ffwrnais roddi'r platiau'n drefnus yn y ffwrnais, rhai yng nghefn y ffwrnais, eraill yn yr ochrau a rhai yn y blaen, a'u symud o'r naill le i'r llall fel y byddent oll o'r un tymheredd.

Byddai'r cetris gweigion niferus ar ochrau ffordd y Cob yn tystio i'r gyflafan.

Gall goleuni deithio'n rhwydd o un pen i'r llall o'r ffibr, ond ni all ddianc drwy'r ochrau oherwydd fod adlewyrchiad mewnol ar y ffin rhwng y craidd a'r gorchudd.

Roedd ochrau'r cwm a Chraig y Lleuadau fel pe baent wedi cilio i'r pellter a safai Meic ar wastatir eang a gwyntog.

Dengys darlun carreg Rhuddlan sydd ar y map yr hiciau a dorrai'r Gwyddelod ar ochrau'r meini, dyma'u dull hwy o ysgrifennu.

Wedi hen wyntyllu'r mater penderfynwyd mynd i fyny ochrau Mynydd Elgon, sydd ag un ochor iddo yn Kenya a'r llall yn Uganda.

Mwg ac ager yn chwyrl~o allan o ambell agen yn yr ochrau, a rhyw dawch brwmstanaidd yn gordoi'r holl, gan beri i mi grychu fy nhrwyn wrth anadlu.

Chwarddai nes yr oedd y dagrau yn rhedeg dros eu ruddiau a'i ochrau ar hollti gan chwerthin.

Rhwng y cwt mochyn a'r gors mae boncyff un o'r coed llwyfen gafodd eu cwympo, ac y mae brigau bach newydd iraidd wedi tyfu o'i ochrau yn deilio bob blwyddyn.