Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ochri

ochri

Rhyw ochri efo Byron Hayward ydw i yn hyn i gyd a dweud y dylid gadael i'r bobl yma chwarae i'r gwledydd lle cawson nhw eu geni ac nid lle gwelodd eu taid neu eu nain olau dydd.

pwysleisio nad oedd unrhyw wlad i ochri drwy ryfel â gwlad a oedd yn rhyfela yn erbyn gwlad arall, nac i gefnogi dadl y naill wlad na'r llall dros fynd i ryfel.

Rhaid imi gyfaddef mai rhyw dueddu i ochri efor Tywysog Charles yr ydw i yn y ddadl planhigion genynnol yma.

Ond wrth anwybyddu'r cyd-destun gwleidyddol a mynnu bod y gamp o gyrraedd y brig o fewn ein gafael fel y saif pethau ar hyn o bryd, mae'r adroddiad yn ochri, yn anfwriadol efallai, gyda'r status quo.

Ochri efo'u Tywysog y byddai pobl Dolwyddelan gan arswydo rhag y Gwylliaid, yr Ymennydd Mawr a'r pry bychan o Gripil, Gwgon Gam.

Roedd yr artistiaid hyn yn ochri, ac yn uniaethu, â phobl gyffredin Cymru yn eu dioddefaint.

Dewisodd ef ochri gyda 'dogma a sagrafen a deffiniad mewn crefydd' (er nad oedd eto wedi ei dderbyn i'r Eglwys Gatholig), ond parchai hefyd y rheini a arddelai anffyddiaeth rhonc - sef dogma anghrefydd.

Un datganiad ysgytwol a wnaed gan filwr ifanc o Lerpwl oedd yr hoffai ochri gyda'r Cwrdiaid i roi `cweir' i fyddin Irac yn yr un modd ag yr hoffai ochri gyda'r `Protestaniaid' yng Ngogledd Iwerddon i roi cweir i'r `Pabyddion'.