Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oddeutu

oddeutu

Gwynant yn chwynnu oddeutu'r coed bach.

Ganed fy nhad ym Mhen-dre, Ty Nant, Plwyf Llangwm, fferm fechan oddeutu hanner milltir o Benyfed.

Cofier fod Mawrth ymhellach oddi wrth yr haul na'r Ddaear ac o'r herwydd mae tymheredd arwynebol Mawrth oddeutu rhewbwynt dŵr yn barhaus, er mai'r unig dystiolaeth bendant sydd ar gael o fodolaeth dŵr arni yw yng nghyffiniau ei dau begwn.

Fe'ch telir ar neu oddeutu y pymthegfed niwrnod o bob mis ac fe'ch telir trwy drosglwyddiad banc.

Fe'i ganed yn Sir Drefaldwyn, ac ar ôl bugeilio'r ofalaeth am oddeutu naw mlynedd, dychwelodd i Sir Drefaldwyn, oherwydd gwaeledd ei fam.

Oddeutu'r pum cant, fwy neu lai, sydd yn cystadlu yn Adran Llên y Genedlaethol bob blwyddyn, er bod pum mil a mwy ar b'nawn Iau yn ysu am roi 'u llinyn mesur ar 'u tipyn ymdrechion nhw hefyd.

Maen nhw werth oddeutu £1,000 yr un.

Taflwyd cerrig, llechi a rheiliau gan rai o'r cannoedd o bobl a safai oddeutu'r lein.

Cymer y daith oddeutu tair blynedd, ac erbyn ei diwedd bydd y leptocephalii wedi newid o anifeiliaid daildebyg tryloyw i lysywod bach melynwyrdd (elvers).

Wrth i ni adael Hartisheik, rydyn ni'n gyrru heibio i oddeutu cant o bobl sydd wedi ymgasglu y tu allan i gompownd Cronfa Achub y Plant.

A chredwn na ddylasai ar unrhyw gyfrif wneuthur hynny â Philti ac Enomeris oedd yn ferched oddeutu dwy ar bymtheg oed pan ddaeth Miss Bessie Jones â hwy o Cherra i Maulvi Bazaar .

Caem y pryd nesaf oddeutu pump o'r gloch, am hynny o les a wnâi inni o achos roedd safon y reis yn gymhedrol iawn erbyn hyn.

(Yn Lloegr y gwrthwyneb sy'n digwydd, mae diwylliant yn cael ei ddihidlo o'r sefydliad i lawr.) Ef oedd y llais Cymreig a lefarai dros swyddogaeth cymdeithasol celfyddyd, a bu'n cydweithio â phobl eraill mewn gwahanol feysydd celfyddydol dros y blynyddoedd, gan sefydlu'r mudiad Beca oddeutu ugain mlynedd yn ôl.

I gael blas da dylid eu sgwrio'n dda, eu lapio mewn foil cegin a'u crasu am oddeutu dwy awr.

Bu'r band yn canu am oddeutu awr a hanner gyda Cerys yn cloi'r noson gyda Thank the Lord I'm Welsh.

lluniwyd yr adroddiad gan arbenigwyr o Cadwraeth gloy%nnod Byw, Cyfeillion y Ddaear, Plantlife, Y Gymdeithas frenhinol er Partneriaeth Ymddiriedolaethau Cadwraeth a Bywyd Gwyllt Cymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, a Chronfa Natur y Byd, Nature sydd, gyda'i gilydd yn cynrychioli oddeutu dwy filiwn o bobl ym Mhrydain yn unig.

Yn ystod fy ieuenctid trigai oddeutu deg ar hugain o deuluoedd ym mhentref Cefn Brith, y cyfan bron a'u gwreiddiau yn yr ardal ar wahân i ddyfodiaid a ddaeth yno o ganlyniad i briodas.

mesurodd yn ei feddwl oddeutu ugain medr rhyngddo a 'r bachgen, i lawr yr afon a thua hanner y ffordd ar ei thraws, a da hynny.

Oddeutu'r un amser daeth si fod y Siapaneaid wedi darganfod set radio o waith rhai o'r carcharorion.

OW Owen, MA Mab fferm yn ardal Cricieth oedd ef ac fe arhosodd gyda ni am oddeutu pedair blynedd.

Oherwydd ei bod wedi mynd heibio i'r wâl am oddeutu ugain llath cyn dod yn ei hôl drachefn ar yr un trywydd, y mae wedi gadael dwbwl ei thrywydd arferol ar y darn hwnnw o dir a bydd y gelyn yn cael ei gamarwain i dybio ei fod ar ei gwarthaf ac ar fin ei goddiweddyd.

Yn ol cyfartaledd roedd y cynnydd mewn pwysau yn werth oddeutu hanner can punt i ffermr wrth werthu'r anifail gorffenedig, hanner can punt fyddai'n aml yn gwneud y gwahaniaeth rhwng elw a cholled.

Pan oedd oddeutu ugain oed, fe gynhyrchodd John Eilian JT Jones, bryd hyny, a'i gyfaill, Prosser Rhys, gyfrol o farddoniaeth ar y cyd o dan y teitl Gwaed Ifanc.

Roedd oddeutu 4,500 o docynnau wedi eu gwerthu a gan fy mod innau ychydig yn hwyr yn cyrraedd y pafiliwn, roedd yn rhaid bodloni ar sefyll yn y darn estynedig ohono lle'r oedd yn amhosib gweld dim oedd yn digwydd ar y llwyfan.