Dywedodd Thomas Sebastian Price o Lanfyllin mewn llythyr Lladin yn 1700 fod y Gymraeg erbyn hynny wedi peidio â'i harfer oddieithr gan y werin iselradd.
Bachgen ifanc iawn oeddwn i pan gyfrannodd y bobl hyn eu pytiau yn y llyfr (oddieithr y mwy diweddar ohonynt) ac arwynebol iawn, ar y gorau, oedd f'adnabyddiaeth i o gymeriad neb y pryd hynny.
Pa ateb oedd i amheuon felly oddieithr ceisio ymwroli a chredu'r gorau.
Nid oedd gennym ddim yn erbyn y Capten oddieithr ei fod o'n ei gyfrif ei hun braidd yn bwysig.
Oddieithr ychydig sylltau a oedd yn rhydd yn fy mhoced, yr oedd yr holl arian a feddwn yn fy mhwrs.
Yr oedd ei chyfeillesau wedi ei gadael oddieithr y ``wraig synhwyrol''.
Darllenai bennod o'r Beibl yn ei hystafell wely yn ddi-ffael bob nos, a chysgai'n dawel ar ôl hynny; ac nid wyf yn gwybod a ddarllenai hi ddim arall oddieithr ar y Saboth, pryd yr arferai gymryd y DRYSORFA i fyny, gan ei hagor yn rhywle ar ddamwain ac yn union deg dechreuai bendympio.
Ond chwarae teg, os sylwodd o gwbl ni ddywedodd ddim, oddieithr dymuno'n dda imi.
Dyma gam bras o gofio nad oedd Cymraeg yn yr ysgol o gwbl oddieithr yn y cyfnod pan fu Gwyn Daniel yn ceisio'i orau glas i'w Chymreigio.