Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

odid

odid

Ond wrth ystyried Elphin, ar y llaw arall, dichon y cytunem nad oes yn ei waith odid ddim o werth mawr parhaol ac nad oes ganddo gymaint ag un gerdd gron y gellir cymharu ei hansawdd a goreuon ei genhedlaeth nac ag unrhyw genhedlaeth arall.

Gan na wyddom beth oedd maint odid un o'r argraffiadau sy'n cario'i enw ef a'i gydweithwyr, nid oes modd inni wireddu'r hawl hon.

Ar wahân i nofelau a straeon ecsentrig Dr Pennar Davies a nofelau lliwgar diweddar Rhydwen Williams nid oes gennym odid ddim o wir bwys.

Nid ydym well o resynu at y ffaith na feddyliai ef, fwy nag odid neb arall yn ei oes, am Gymru fel cenedl.

Dywed mai o'r Alban yr oedd ef wedi cyrraedd Rhydychen ac mai pobl yr Alban a oedd wedi gofalu amdano; oni bai amdanynt hwy, mi fuasai wedi bod fel 'brân gloff ar yr adlodd oblegid 'nid oedd y Cymry wedi arfer ymgyfarfod, ac ychydig iawn o drafferth oedd neb yn gymeryd i ddangos mai Cymro oedd' Y gwir yw, petasai OM wedi mynd o Aberystwyth yn syth i Rydychen yn hytrach na via Glasgow, mi fuasai wedi bod ymhlith cyd Gymry o'r dechrau cyntaf, ac odid na fuasai wedi clywed am Glwb Coleg Aberystwyth.

Ni fynnaf drafod yma odid ddim ar yr Oesau Canol a pharhad y math (neu'r mathau) o genedlaetholdeb a geid yno, am y rheswm syml fy mod o'r farn inni gael yn rhan o'n cynhysgaeth o'r unfed ganrif ar bymtheg i lawr lun ar genedlaetholdeb diwylliadol 'newydd', cenedlaetholdeb ag iddo nodweddion anfediefal, cenedlaetholdeb yn y meddwl a'r dychymyg a oedd yn ymgais i wrthsefyll nerth y dylanwad allanol a oedd arnom.

Un felly oedd Henry Rowlands, gŵr na fu ymhellach bron na Chonwy ac na sangodd ei droed ar ddaear Lloegr odid erioed, yn ol ei gyfaill Edward Lhwyd.

Sef o ryw fan deallusol lle nad oes odid neb yn colli cwsg ynghylch iawn amseriad y Farn Fawr nac yn debyg o lindagu ei gystedlydd os nad yw'n cytuno gant y cant ag ef ynglŷn â natur y Drindod ac arwyddocâd symbolaidd y planedau; ond man, serch hynny, lle cydymdeimlir ag amcanion yr ysgrifennwr crefyddol fel ag amcanion pob llenor.

Heddiw, mae'n wybyddus nad oes gan Mawrth ond odid atmosffer tenau o garbon deuocsid sydd yn gallu cadw neu ddal gafael mewn cyfran fechan o wres yr haul.

Mi âf oddi yma i'r Hafod Lom Er bod hi'n drom y siwrnai, Mi gaf yno ganu cainc Ag eistedd ar fainc y simne, Ag odid fawr mai dyma'r fan Y byddaf tan y bore...

Ac odid na chaech deimlo'i charn wrth gilio heibio iddi.

Ar ddiwedd y cwrs llwyddodd i ennill cymeradwyaeth mesuredig yr athro a rybuddiodd y dosbarth i beidio a gwangalonni pan aent i Ffrainc a chlywed y brodorion yn parablu'n mamiaith, a hwythau heb fedru deall odid ddim, gan ei bod yn angenrheidiol treulio tipyn o amser i ymgyfarwyddo a seiniau a rhuthm yr iaith fel y'i seinid yn naturiol gan siaradwyr brodorol.

Ym mhlwyf Llechylched nid yw'r afon odid fyth yn cad ei galw'n Afon Caradog.

At hynny, mynegais y farn mai anodd oedd i odid neb aros yn ddi-Gymraeg yn y sir ddwyieithog hon ar ol byw yma am rai blynyddoedd - ac eithrio'r rhodresgar, y meddyliol-anneallus, neu'r diog: yn enwedig unrhyw un mewn swydd gyhoeddus.

Er enghraifft, cloddiwyd trigain miliwn tunnell o lo o'i daear yn y flwyddyn cyn dechrau'r rhyfel byd cyntaf heb fod gan Gymru odid ddim i'w ddangos mewn canlyniad.

ni ni y blaenwyr odid ddim gwasanaeth o gwbl yn awr a'r cyfle wedi mynd rhaid edrych tua'r dyfodol.

Bu mwy o swyn yn ei enw ef i Gymru oll, a mwy o ramant yn ei fywyd, nag odid yr un o'i gyfoeswyr.

Yn ol Hywel ystorm, ef oedd 'Llafn angau brau bro Gynffig.' Ymryson barddol, ond odid, a geir yn yr awdl uchod.

tra allan ar y maes yn ymladd - eu llestri bwyta, dillad eu gwely, pob peth, mewn gair - roedd yr olygfa hon yn fwy nag y medrai teimladau odid un ei dal am y tro cyntaf.

Ond pe gofynnech iddo ymhle mae'r Wythi%en Fawr ond odid mai eich cyfeirio i bentref Brynaman a wnâi, gan restru enwau tyddynnod a mân ffermydd fel Pen-y-graig Glynbeudy, Cwm-garw a'r Croffte, oblegid teulu a wnaeth gyfraniad sylweddol i'r diwylliant brodorol a chenedlaethol yw'r Wythi%en Fawr.