Y mae eu henwau yn odli â'i gilydd - Basas, Dulas, Baddon, Celyddon, ac ymlaen - ac awgryna hynny eu bod yn tarddu o gerdd Gymraeg gynnar yn cynnwys rhestr o frwydrau enwog.
Eto, nid mater o seineg yn unig oedd troi at y gair 'cŵn', a daw hynny i'r amlwg yn y datganiad: 'A chyn belled â bod yr ystyr yn gefn i'r odl, ni welaf fi reswm yn y byd pam na allaf odli cŵn a sŵn'.