Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

odre

odre

Wrth odre'r plwyf saif Plas Glandenis, sedd y diweddar William Jones, un o berchnogion Banc yr Eidon Du.

Ymdroi tipyn yn Rhyd y Ddeuddwr ac wrth odre Castell Rhuddlan.

Cawsom hyd i'r tŷ aros mewn lle prydferth wrth odre rhaeadr anferth gyda golygfa odidog ar draws Karamoja.

Daethpwyd o hyd i gyrff y ddau frawd gyda'i gilydd ger y ffynnon wrth odre Craig Irfon a dyna sut y cafodd yr enw Ffynnon y Brodyr.

Y noson honno cafodd Gwaethfoed a Morfudd lety gyda chawr o'r enw Carwed Feudwy wrth odre Rhiw Garwedd ond pan geisiodd y cawr lofruddio'r ddau yn eu cwsg fe laddodd Gwaethfoed hwnnw hefyd.

Gydag un ohonynt yn ei breichiau, un arall mewn siôl ar ei chefn, a'r llall yn gafael wrth odre ei sgert aeth i'w lluchio'i hun i'r gamlas oedd yng nghefn un o'r strydoedd.

Cyraeddasom dref brydferth Mbale wrth odre'r mynydd tua dau o'r gloch: o hyn ymlaen gorfod dringo'r ffordd droellog i fyny i'r uchelderau.

Y digwyddiad arall oedd agoriad ffurfiol Llyn Celyn pan ddaeth mawrion Lerpwl ynghyd i gynnal y seremoni mewn pafiliwn lliwgar, agored, wrth odre'r argae.