Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oedi

oedi

Mae'r clwb yn beio'r oedi yn y cynllun i adeiladu pentre chwaraeon ym Mae Caerdydd.

Oedi'n hir yn eu blagur a wnaethai dail y coed tra chwythai gwyntoedd Mawrth yn gryf ac yn oer.

Rhyw synnwyr uwchnaturiol bron, yn sibrwd wrtho pa bryd i oedi, pa bryd i ddechrau.

Cyn symud ymlaen i fanylu ar yr ystyriaethau wrth brynu carafan, efallai y dylasem oedi am ennyd i bwyso a mesur y manteision a'r anfanteision o brynu'n ail law a meddwl o ddifrif hefyd am bry- nu'n breifat o'i gymharu a phrynu gan ganolfan werthu.

Rhowch im eiliad neu ddwy eto.' Troes y fydwraig yn ol i'r llofft flaen, a'm tad yn dal i oedi'n ansicr ar y grisiau; ond cyn hir clywodd ei llais awdurdodol yn ei alw i mewn i'r ystafell.

Bron na ellid dweud fod y cyfan yn rhy gyflym ar adegau gan nad yw'r awdur yn oedi ar unrhyw gyfnod.

Ar un olwg yr oedd hi eisoes dros hanner y ffordd, a hwyrach iddi oedi am gyfnod.

Wedi oedi am beth amser mae'r ddau'n mynd yn araf deg at y twll, ac yn gweld mai wedi torri yr oedd y fuse.

Ond 'rhoswch: dydi ergyd y ddau ar y graig ddim wedi mynd felly rhaid oedi am amser.

Roedd yr oedi'n niwsans i griw o ohebwyr blinedig ond yn dyngedfennol i'r gwirfoddolwyr a oedd yn gorfod symud bwyd yn gyflym o'r maes awyr i'r canolfannau bwydo, os am ddal eu gafael arno.

Rhaid i ni oedi i ystyried y ddogfen eithriadol hon, a cheisio dyfalu'r effaith a gafodd ar ei chynulleidfa wreiddiol.

Os na theimla ei fod ef ei hun yn "oedi' nychlyd ar lan yr afon ddofn, gall feddwl yn dirion a gweddigar am rywrai sydd, a chanu drostynt - canu dros y rhai sy'n methu canu hwyrach - ac eiriol ar eu rhan wrth ganu.....

Ond gyda hanner munud yn weddill, bu oedi yn amddiffyn Wrecsam a sgoriodd Connor ei ail gôl a Wrecsam yn edifarhau am fethu'r holl gyfleon.

Mae potensial haidd yn nhermau cynnyrch yn lleihau o gant i gant a chwarter yr erw am bob wythbos o oedi yn yr hau ar ol dechrau Mawrth.

Efallai y byddai wedi bod yn well i'r sgrifenwyr rygbi eraill hefyd fod wedi oedi a phwyllo cyn rhuthro mor gyflym i ganmol ar sail tystiolaeth digon bregus.

Gan fod peth amheuaeth ynglŷn â'r lle'r oedd i ddod i fyny ar y bws bu'n rhaid oedi tipyn cyn cychwyn hebddo yn y diwedd.

Oedi anorfod wrth godi gwersylloedd, yn hytrach na chreulondeb bwriadol, oedd yn gyfrifol am ddioddefaint y trueiniaid ar strydoedd Piranshahr.

Yn ôl - - roedd cyfiawnhad i oedi.

Rhaid fydd symud heb oedi, ac efallai y caf air oddi wrthynt eu bod yn barod i ufuddhau, a'u bod hwy yn ffurfio pwyllgor lleol i gwblhau'r trefniadau, os bydd angen am hynny.

Gwell gen i oedi wrth adfeilion yr eglwys islaw'r groes, Llanddwynwen.

`Hei.' gwaeddodd Debbie, yna heb oedi munud, ciciodd ei hesgidiau i ffwrdd a rhedodd ar ôl y lleidr.

A dydw i'n dda i ddim am bapuro - rhaid i ti neud hynny.' Ac felly y cytunwyd yn y diwedd wedi rhai wythnosau o oedi.

Maen ymddangos mair unig beth syn peri oedi ynglyn â chreu y rhain yw na all neb benderfynu pa liw ddylen nhw fod.

Anodd oedd cael amser i oedi a phwyso a mesur rhinweddau y gwahanol geffylau.

Nid yn unig yr yda ni'n awyddus i newid y dyddiad ond hefyd newid ei fformat - os oes gennych syniadau plis peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni.

Yn sydyn, wrth i ambell un ohonom sibrwd ei fod yn oedi am nad oedd taith adref ar un o awyrennau cwmni Aeroflot yn apelio rhyw lawer, byddai'r cyfan yn dod i ben, Mr Gorbachev a'i dîm yn diflannu gan adael cynulleidfa wedi llwyr ymlâdd.

Ond oherwydd yr oedi cynyddol a ddioddefir gan fenywod sy'n disgwyl cael eu hail-gartrefu, mae nifer y plant sy'n gorfod treulio misoedd lawer - neu hyd yn oed flwyddyn a mwy - mewn lloches, yn cynyddu, yn ddi-os.

Mae'r Cyngor ar ddeall bod oedi i'r perwyl yma ond nid ydynt yn pwyso gan ei fod yn eu galluogi i barhau i redeg Llwyn Isaf a chadw'r gweithwyr mewn gwaith.

A bod yn fanwl gywir, nid un i oedi o gwbl os oedd modd osgoi ateb cwestiynau'r wasg.

Byddai'r gweithwyr yn helpu o bryd i'w gilydd, yn cywiro neu'n dod i'r adwy pan fyddai hi'n oedi, yn ceisio meddwl am y term technegol cywir.

Gallai estyn y blodyn yn hawdd, a heb oedi rhagor, tynnodd Idris y petalau siocled a'u llarpio'n awchus.

Roedd yr oedi ma'n annioddefol!

Darllenodd y gerdd yn y cyfarfod, yn oedi adegau wrth iddi ail greu ei theimladau a'i hofnau.

Oherwydd yr oedi anochel mewn casglu a chrynhoi ystadegau, gall wythnosau onid misoedd fynd heibio cyn i'r llywodraeth sylweddoli bod pethau'n dechrau mynd o chwith, a bod angen iddi ymyrryd â chwrs yr economi.

Nid un i oedi'n ormodol ymhell o'i annwyl America oedd y cyn-actor o Galiffornia.

Bu'r oedi yn gyfle i Cura a'r Côr ymarfer ambell i ddarn a rhannu ambell i jôc wrth iddo chwarae'n bryfoclyd â'r gynulleidfa.

Yn anffodus ni fu'r prif noddwr arall, yr Awdurdod Datblygu mor barod i ymateb yn gadarnhaol a'r Cyngor ac o ganlyniad cafwyd oedi cyn medru gwneud yr astudiaeth.

Wnes i ddim oedi, dim ond bwrw golwg sydyn arno o'r gegin.'

Eto, y mae'n werth oedi uwchben geiriau Saunders Lewis, oblegid y mae oblygiadau pellach i'r gwrthgyferbyniad a wnaeth rhwng Williams a'r beirdd traddodiadol.

Ond yr ydw i yn oedi cyn ei ddisgrifio fel hen law ar y gamp.

Y mae arian ar gael o'r corff hwn, hefyd, ar gyfer prosiectau, ond, foddbynnag, os yw cais yn llwyddiannus y mae cryn oedi cyn derbyn yr arian.

Yn sicr, fe ymddengys fod y bwci'n gwybod ei ffordd gan ei fod yn torri drwy'r goedwig yn hyderus iawn gan droi o'r naill lwybr i'r llall heb oedi eiliad i ystyried a yw e'n dilyn yr un cywir.

Ar ôl mynd heibio i Lanafan Fawr mae'n werth oedi peth a throi i'r chwith ar hyd y ffordd gul wledig i ben uchaf Cwm Chwefri.

Nawr, pe bawn i wedi oedi i ddarllen y print mân ar yr amserlen yn Euston, buaswn wedi gweld fod angen newid i drên arafach yn Crewe.