Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oen

oen

Yr ydw i wrth fy modd gyda chig oen ac wedi mopio efo cig eidion.

Wedi'r cwbl, os ydi'r Beibl yn dweud bod 'Oen Duw' yn gallu gwneud 'hyd yn oed i'r gwynt a'r môr ufuddhau iddo', pwy ydan ni i feddwl mai dim ond ar gyfer dynol ryw y crewyd neges y Nadolig.perygl yn sbaen bob eynon tud.

Yno fe'i cawn yn ei ffurf Roegaidd, Alelwia Aeth y mawl Iddewig bellach yn rhan o'r mawl Cristnogol, oherwydd dathlu buddugoliaeth yr Oen mae'r alelwia yn Llyfr y Datguddiad.

Dyffryn afon Lledr yn llawn ffresni i gyfeiriad Bwlch y Groes a llethrau'r Drosgol, efo ambell oen bach yn prancio yn ei afiaith ar y llechwedd.

A chyd-destun mawredd yr Oen a ysbrydolodd Handel wrth gyfansoddi Corws yr Halelwia, sy'n dal i godi tyrfaoedd ar eu traed gan mor orfoleddus yw'r mawl.

Gan nad beth, creadur y gwanwyn yw'r oen, ac arferais gredu, yn gam neu'n gymwys, bod a fynno tarddiad enw'r tymor cyntaf â ffurf lluosog y term 'oen'.

Gresyn na fuasai'r archeb am gig oen a'r swyddi cysylltiol wedi dod i Gymru.

Cyhoeddir nad oes neb yn deilwng i dorri'r seliau ac i ddatgelu cyfrinachau'r sgrol ond Iesu Grist a ddisgrifir ar un gwynt yn Llew o lwyth Jwda ac ar y llall yn Oen fel un wedi ei ladd.

Y mae gan Aberdaron ei gwendidau, ond y mae'n hollol naturiol, tra bydda i'n sgwrsio ag un o'r mân dyddynwyr yno, imi ei glywed o'n troi at ei hogen a dweud, 'Buddug, dos i nol yr oen bach 'na'.

Cerddodd Ifor ar ei hôl fel oen llywa'th, a'i awydd i gysgu yn gryfach na'r un i ddadlau hefo'r ffurat o'i flaen!

daeth y gwas yn ôl ac archebodd y dyn gig oen gyda salad, a photelaid o win coch.

Ac os trof fy ngolygon i'r de gwelaf grychydd yn llyncu pysgodyn yn yr afon, a churyll yn ymsaethu i lawr i ddal ei sglyfaeth, a dyn yn bwyta'r oen i ginio.

Deued pechaduriaid truain Yn finteioedd mawr yn nghyd, Doed ynysoedd pell y moroedd I gael gweld dy wynebpryd: Cloffion, deillion, gwywedigion, O bob enwau, o bob gradd, I Galfaria un prydnawngwaith, I weld yr Oen sydd wedi ei ladd.

Un o'r rhyfeddodau mwyaf oedd, er gwaethaf problemau mawr yr ymbelydredd, fod pris a gwerthiant wyn a chig oen wedi bod yn dda.

Ymysg yr enillwyr o Benmynydd oedd Dilwyn Owen a Dylan Jones am Baratoi Oen at gylch sioe; Arwel Jones a Medwyn Roberts am wneud crempog (a'i thaflu!!); Paul Parry ac Ann Williams am addurno drwm olew, Arwel Jones ac Aled Pennant am wneud cenel i gi, ac unwaith eto eleni, eu tim dawnsio gwerin.

Roedd Dr Braithwaite wedi troi fel oen.

Roedd o wedi diflannu i rwla, yn mwydro rwbath am droi rhyw feheryn at rhyw ddefaid, dôshio rhyw giât, weldio rhyw fuwch, injectio rhyw dractor a thrwshio rhyw oen.