Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oeraidd

oeraidd

Daeth y lleuad allan gan daflu ei golau tawel oeraidd dros y wlad.

Derbyniodd erfyniadau Jack Bevan, Thomas Jones ac eraill ymateb oeraidd iawn gan y mil a hanner o bobl oedd wedi ymgynnull erbyn hynny.

Roedd set Julian Williams yn set eang ac yn caniatau i'r camera ddangos eangder oeraidd y gweithdy a'r posibilrwydd o bobl yn llechu yma a thraw.

Ond, fel y sylwais neithiwr, nid yw trafnidiaeth India mor gwbl wallgof a thrafnidiaeth Jamaica, nac mor oeraidd-drahaus a thraffig Ewrop.

'Roedd hi'n gwneud ei gwaith yn iawn mae'n siwr, ond berfa bell, oeraidd, ffurfiol haearnaidd, ag wyneb mawr a dim dyfn ynddi hi oedd hi.

Mae rhywbeth mwy treisiol a dinistriol, ar y llaw arall, yn gorwedd islaw diwethafiaeth byd Gwilym Meredydd Jones, ac mae casineb oeraidd y stori-deitl, Chwalu'r Nyth, yn iasoer yn ei diffyg tosturi.

Doedd dim modd dadansoddi'n gwbl oeraidd yn erbyn cefndir fel yna; roedd tynged y ddwy wlad, beth bynnag, i raddau helaeth yn cael ei benderfynu fil o gilometrau i'r de-ddwyrain, ym Moscow.

Mae'r dolefain oeraidd yna yn fy llethu i; sŵn dyn ar fin marw ydy o.

Yr oedd yna rai â'u teyrngarwch i'r mudiad mor ddwys a dwfn fel na fedrent hystyried y mater yn oeraidd, ac yn wyneb digwyddiad fel Tryweryn, yr oedd yna wanobaith llwyr, ac angen emosiynol clir am drobwynt dramatig.

Ar yr un pryd, mae yna bryder y gallai gormod o drefniadau diogelwch wneud yr ysbytai'n oeraidd a di groeso.

"Diolch yn fawr," derbyniodd ei gynnig yn gwrtais ond yn bell ac oeraidd.

Gwenodd yn oeraidd o'i chlywed yn gwyrdroi ei eiriau.

yn fwy bygythiol nag arfer am ei fod yn sefyll mor llonydd a'r golau egwan yn sgleinio mor oeraidd ar fetel ei ysgwyddau llydan.

Roedd Tremenheere, a oedd, o'i gymharu â'r arolygwyr eraill, yn eithaf parod i ystyried yr amgylchiadau, ac nid yn foesolwr oeraidd, yn cymryd gofal mawr i bwysleisio bod y gweithwyr at ei gilydd yn cael eu talu'n dda am eu gwaith, pa mor llafurus ac annymunol bynnag ydoedd.

Y mae ef yn dal fod yr Hen Ymneilltuaeth syber, ddeallusol, oeraidd wedi marw ac Ymneilltuaeth newydd wedi codi o'i llwch, a'i brwdfrydedd yn cael ei fegino gan awelon cynnes y Diwygiad Efengylaidd.

Ond cofiodd toc fod ganddo job o waith i'w gwneud, a dyma fo'n meddwl chwarae ei gardyn gorau a dweud wnaeth o mewn llais oeraidd: 'Ond fo laddodd Huws Parsli, onide?