Dianc cyn dyfod yr oerni yw hanes yr adar a fu yma yn nythu ac yn magu yn nyddiau hir, llawn pryfed, yr haf.
Doedd gen i'r un syniad ar y pryd beth oedd y ffrwyth, ond wrth ei flasu y prynhawn hwnnw, a chael 'y nghyflwyno am y tro cynta i'r melwyn dwr, fe alle unrhyw un gadw'i caviar a'i siampên--ar yr eiliad honno, fedre dim byd melysach na brafiach fod wedi gwlychu 'ngwefuse i, ac roedd oerni a ffresni'r sudd yn adfywio ceg oedd yn boenus o sych.
Ceisia anghofio'i oerni tuag at dy fam.
Wedi i ddwy fuwch a dynewad a llo fod yn y beudy trwy oerni'r hirlwm, erbyn dechrau Ebrill, mi fyddai'r tamaid awyr fyddai i'w weld trwy'r drws o'r beudy dros ben y domen yn mynd yn llai ac yn llai a'r llwybr i basio rhwng y drws a'i godre yn mynd yn gulach ac yn gulach.
Mae'r math o ddefnydd a wneir ohoni yn mynd i ddylan- wadu ar y math o insiwleiddio sydd ei angen i wrthsefyll yr oerni a thywydd garw.
aros fel glas- wellt y borfa heb dyfiant yn ystod yr oerni, gwywo uwchben y pridd fel danadl poethion, neu gysgu'n flagur tew o fwlb dan y pridd.
Rhedai'r bobl yn ôl ac ymlaen, trwynau'n goch a llygaid yn disgleirio yn yr oerni.
Ac mae'r coed bythwyrdd yn ymddangos yn ddigyfnewid, ond yn yr oerni mae'r prosesau bywiol wedi arafu ynddynt hwythau.
Yn y gaeaf, os oedd yr oerni'n fawr, byddai yn lapio rug am ei chanol ac yn mynd i'r capel ar hyd y stryd gefn wrth lan yr afon.
Ond llusgo braidd ar ol mae'r gwres a'r oerni, a diwedd Gorffennaf yw'r amser cynhesaf, a diwedd Ionawr yw'r amser oeraf.
Gwelai hogiau'r sied, eu capiau i lawr yn isel am eu pennau, a golwg denau, lwyd arnynt, yn sgythru yn yr oerni wrth sefyll yn nrysau'r sied yn disgwyl caniad.
Gofynnais i feddyg eiddil o dan fwrn ei ddiferion chwys - mewn oerni unig ynglŷn â chyflwr claf arall - am ganiatâd i roi chwistrelliad o gyffur cry' i arbed poen i'r bachgen deunaw oed a oedd yn cynhyrfu am fod ei lygad de yn hongian allan o'i ffynnon goch ac yn gorffwyso'n flêr ar ei rudd lwyd; ac yn disgleirio yn las tuag ataf .
Fe fydd yr oerni anarferol yn amlwg yn y mannau hynny.
fwydo ei wynfyd, neu ar ddiwrnod pan ddisgyn y glaw megis rhaeadr o nodwyddau dur; eto yn fynych gorfod gostegu yw tynged y glaw o dan gryfder ynni a dirmyg gwynt a ddaw yn syth o'r fan lle mae crud a bedd yr oerni bythol wedi ymgartrefu ar y rhewfil sydd yn sgleinio'n ddiog, ac yn ddi-ildio.
Ac yn ystod blynyddoedd yr Ymraniad, mae'n deg dweud fod y rhan fwyaf o'i haelodau yn teimlo oerni'r bwlch a agorodd rhwng Rowland a Harris.
Ar ôl mynd allan i'r oerni, sylweddolodd ei fod wedi gadael ei gôt ledr yn y tŷ bwyta.
Llai na chant o'r gynulleidfa wreiddiol sydd ar ôl erbyn hyn wedi eu lapio'n dyn mewn cotiau trwchus rhag oerni unarddeg y nos.
Y gaeaf yw'r tymor anodd, dyddiau byr, oerni, stormydd a phrinder bwyd, y rhain i gyd yn tocio yr hen a'r gweiniaid.
camodd i 'r dŵr ^ r ac am eiliad fferrodd ei goesau gan yr oerni sydyn.
'Does gan yr anifeiliaid gwaed oer ddim dewis, mae'r oerni yn eu gyrru i goma neu drwmgwsg ac nid yw rhai ohonynt byth yn deffro ohono.
Gallai ei dychmygu'n awr, yn gorwedd yn ddu ar ochr y mynydd yn y fan acw, a niwl fel cap llwyd am ei phen, fel rhyw hen wrach yn gwneud hwyl am ei ben, ac yntau;'n ymbalfalu tuag ati ar foreau tywyll fel hyn, a dim gwaith i ddechrau arno yn oerni'r bore; dim ond mynd o gwmpas a'i ddwylo yn ei boced i fegera.
Ddydd Mercher, bu morwr arall farw o'r oerni, a'r noson honno bu farw llongwr arall wedyn.
Gellid gwneud bara gyda'r mes neu'r rhisgl, drwy eu cymysgu â blawd i wneud bara oedd yn cynnal a chryfhau dyn ar ôl oerni a gwlybaniaeth y gaeaf.
Ar adegau felly, cyn sicred â dim, y mae gên y gohebydd druan yn tueddu i rewi a'r gwefusau'n crynu wedi oriau'n gwagsymera yn yr oerni, gan wneud y dasg o adrodd yr hanes gerbron y camera'n un hynod boenus.
Mae'n bur debyg y buasai'r bachgen bach wedi marw o'r oerni oni bai ei fod wedi cael dillad y rhai a fu farw amdano.