Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

oesau

oesau

Y peth traddodiadol i'w wneud mewn pasiantau ac operâu roc yw cyflwyno talp o hanes ardal - am arwyr y gorffennol, am ddigwyddiadau cynhyrfus neu stori'r oesau.

Ni fynnaf drafod yma odid ddim ar yr Oesau Canol a pharhad y math (neu'r mathau) o genedlaetholdeb a geid yno, am y rheswm syml fy mod o'r farn inni gael yn rhan o'n cynhysgaeth o'r unfed ganrif ar bymtheg i lawr lun ar genedlaetholdeb diwylliadol 'newydd', cenedlaetholdeb ag iddo nodweddion anfediefal, cenedlaetholdeb yn y meddwl a'r dychymyg a oedd yn ymgais i wrthsefyll nerth y dylanwad allanol a oedd arnom.

Ar hyd yr oesau, mae ei bywyd wedi ei gysylltu â hud, lledrith a rhyfeddod.

O'i fewn gwelir golygfeydd hyfryd naturiol, nid o waith llaw, ac hefyd batrymau hynod o bleserus o weithgarwch dyn ar hyd yr oesau.

Dyna weddillion yr hen briffordd a gysylltai gwr uchaf Dyffryn Gwy â Gogledd Ceredigion yn yr oesau a fu.

Paris, drwy'r oesau, fu llwyfan eu brwydrau syniadaethol gwleidyddol a milwrol.

Edrychwch draw ac fe welwch lle y rhuthrodd ysgrifbin beiddgar y gŵr hunan-hyderus i recordio i'r oesau ei fawredd ei hun, na recordiwyd mohono yn unman arall.

Ar yr un pryd nid rhywbeth mympwyol yw barn o werth, ond rhywbeth wedi ei sylfaenu ar ddarllen dwys a chatholig: nid yn unig darllen gweithiau gwreiddiol ond darllen ac astudio datganiadau beirniaid llenyddol yr oesau ynghylch natur barddoniaeth.