Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

offeiriad

offeiriad

Cymeriad annelwig yw Sant Ffolant: efallai mai Esgob Terni ydoedd neu offeiriad o Rufain a ferthyrwyd yn y drydedd ganrif OC Nid yw'r cysylltiad rhwng Sant Ffolant a chariadon yn un arbennig o ramantaidd.

Mewn cwmni bychan gallai fod mor gyfrin ag offeiriad, ac yr oedd ei gyngor bob amser yn werth ei gael.

Gall hyd yn oed yr offeiriad deimlo'r caddug yn cau amdano wrth iddo weinyddu'r offeren.

Er ei fod yn offeiriad yn yr Eglwys Babyddol, yr oedd yn ŵr priod, fel llawer iawn o offeiriaid eraill yr oes yng Nghymru.

Mae'n sicr fod Davies fel offeiriad plwyf wedi'u darllen i'w gynulleidfa.

Er ei fod yn sgrifennu o fewn cwmpas byr, y mae'n cywiro llawer o gamgymeriadau am fywyd Theophilus, ac yn ceisio unioni'r cam a gafodd trwy roi ystyriaeth i'w holl weithiau llenyddol a'i waith fel offeiriad cydwybodol.

Gan fod offeiriad Aberdâr wedi ymosod yn benodol ar Ymneilltuaeth, gan honni mai hynny, ynghyd â chryfder yr iaith Gymraeg oedd i gyfrif bod bywyd y dosbarth gweithiol yn yr ardaloedd diwydiannol yn isel ac anfoesol, yr oedd y dadleuon yn gorgyffwrdd â'i gilydd, a Ieuan Gwynedd yn ymddangos fel amddiffynnydd 'gwir Gymreictod'.

Rhoddais gnoc efo'r 'offeiriad' ar ei ben.

Ar ddiwedd wythnos o boen meddwl y mae'r bachgen yn sylweddoli na fydd ef fyth yn fynach nac yn offeiriad.

Yr oedd yn fwy o ysgolhaig nag o offeiriad Cydnabyddir ef yn un o'r tri ysgolhaig pur a gynhyrchwyd gan y Dadeni Dysg yng Nghymru y cyfnod hwnnw.

Eisteddai offeiriad mewn côr is-law'r canon.

Yn Saesneg yr ysgrifennai'r offeiriad, ac â chroes yr arwyddai'r warden ei enw.

Roeddwn i yn un o'r rhai oedd yn mynd allan, a'm cymydaith oedd person sydd erbyn hyn yn offeiriad adnabyddus.

Y mae Mr Gruffydd yn sicr wedi etifeddu'r safbwynt anghydffurfiol, ac megis Mr Murry yn Lloegr, yn gwneuthur mwy tros fetaffyseg crefydd nag unrhyw offeiriad enwadol y gwn i amdano.

Delwedd arall a berthynai i waith yr offeiriad, ond wedi ei gosod o ongl hollol wahanol, yw honno am Grist fel yr Archoffeiriad mawr a gyflawnodd ddefodau puredigaeth fel y daeth hi'n bosibl i bechaduriaid fynd i mewn i gysegr presenoldeb Duw, yn union fel y caniateid i'r Archoffeiriad fynd drwy len y cysegr i bresenoldeb Duw (Heb.

Er bod y cwmwl 'ma sy' wedi goddiweddyd Teulu Nanhoron yn taflu 'i esgyll droston ni i gyd.' Am foment ciliodd y sirioldeb o wyneb yr offeiriad.

Awyrgylch hynod gyfeillgar a ffwrdd â hi oedd yno gyda'r offeiriad yn yfed cymaint â neb.

Am y dywaid ynddo, 'Nad ydyw Crist i'w addoli fel Cyfryngwr'." Serch hynny, y mae achos i amau fod y statws cymdeithasol a roddwyd i'r offeiriad, fel gŵr dysgedig, ac felly fel bonheddwr, yn corddi enaid Hugh Hughes gymaint ag oedd cwestiynau diwinyddol o'r math.

Ar ôl cinio aeth y ddau i'r lolfa am goffi ac yno roedd nifer o bobl wedi ymgynnull, yn eu plith amryw o Wyddelod lleol gan gynnwys offeiriad llawn hwyl.

Oddi wrth ei dad, go debyg, y cafodd beth, o leiaf, o'r addysg a'i dododd ar ben y ffordd i fod yn offeiriad.

Ond mynd yn offeiriad wnesi, ac yn fuan iawn yn fy ngweinidogaeth fe sylweddolais fod ymgodymu ag ysbrydion yn rhan o'r gwaith.

Ond mae gwaeth i ddod, pan yw'r offeiriad lleol yn cyfaddef mai ef yw'r tad!

Roedd o fel bod mewn perlewyg wrth i'r offeiriad weinyddu'r sacrament i'r merched yma - merched a fu unwaith yn weinyddesau i'r tai mawr yn Beirut pan oedd hi'n dal yn berl y Dwyrain Canol.

Er enghraifft, petawn i'n derbyn disgrifiad Einion Offeiriad o farddoniaeth þ 'Ni wneir cerdd ond er meluster i'r glust ac o'r glust i'r galon' þ byddai'n rhaid i fiwsig chwarae rhan bwysig iawn yn fy ngwaith.

Roedd yr offeiriad gwlatgar, Daniel Ddu o Geredigion, wrth ei fodd o ddeall y byddai 'studio a harddu ein hiaith' yng Ngholeg Dewi Sant.

Yno roedden ni'n dysgu sut i ddysgu eraill, sut i ymweld â'r claf, sut i bregethu, sut i wrando; yr holl grefftau roedd eu hangen ar offeiriad, a'r cwbwlan yr un teitl â 'Pastoralia'.

Yn un peth yr oedd wedi ei wisgo, nid fel esgob, ond fel offeiriad cyffredin, a hynny mewn oes pan oedd manylion gwisg yn bwysig.

Ym Manawydan fe ddywed yr ysgolhaig ei fod wedi dod 'o Loygyr o ganu', a gellid meddwl bod yr offeiriad a'r esgob yn dod o'r un cyfeiriad.

Offeiriad oedd Edmwnd Prys, yntau, person Maentwrog ac Archddiacon Meirionnydd.

Pwysleisiai fod Mam yn disgwyl iddo ef ddod adre i fynd â ni i'r Cwrdd am y tro cyntaf a soniai am fy mrawd lleia a waeddodd mâs cyn i'r offeiriad gyhoeddi'r emyn olaf "Sdim fod siarad yn y Cwrdd" nes peri i'r gynulleidfa niferus (yr adeg honno) droi i edrych i gyfeiriad y cyhoeddwr dewr!

Enillodd ASHLEY POTTER, Arlunydd Cefndirol "Chwedl Offeiriad y Lleian", wobr am Lwyddiant Unigol Arbennig.

Fe'i gwelid yn gyson yn angladdau'r fro, ac ar adegau felly gofalai pob offeiriad a gweinidog ei wahodd i gymryd rhan yn y gwasanaeth, un ai gyda gweddi neu ddarlleniad o'r Ysgrythur.

Mae'n amlwg nad oedd angen ond i Youenn Drezen dynnu ar ei atgofion personol er mwyn disgrifio datblygiad seicolegol y cyw offeiriad pan orfodir ef yn sydyn i wynebu byd yr ymdrechwyd hyd hynny i'w guddio rhagddo.