(Nid dyma'r sylwadau mwyaf difrifol ynglŷn â'r Gymraeg a gafwyd gan offeiriadaeth yr ardal, ond trafodir hynny'n fanylach yn nes ymlaen.) Os cafodd y Parchedig John Griffith, Aberdâr, y teitl 'enllibiwr ei wlad' gan y Parchedig D.
Yn ei ymosodiad ar gyfrol Ellis Annwyl Owen yn y Seren Ogleddol, cyfyngodd ei feirniadaeth i offeiriadaeth yr Eglwys Wladol, gan honni bod trefn yr eglwysi anghydffurfiol yn sicrhau duwioldeb eu gweinidogion hwy.
Yr oedd yn bosibl, wrth gwrs, fod y dyn dysgedig hefyd wedi cael profiad mewnol, ond yr oedd hyn yn annhebyg, gan fod yr offeiriadaeth yn bennaf yn broffesiwn - sef ffordd o ennill bywiolaeth - a ddenai bobl am y rhesymau anghywir, felly.
Cyn bo hir, deuai natur yr offeiriadaeth, ac yn y pendraw - wrth iddo weld y gwahaniaeth rhwng rhai o'r eglwysi ymneulltuol a'r eglwysi Catholig yn mynd yn fwyfwy aneglur - natur y weinidogaeth hefyd, yn ganolog i'w athrawiaeth.
Yr oedd mewn Protestaniaeth gymhelliad cryf iawn i anrhydeddu'r werin byth ar ôl i Martin Luther esbonio arwyddocâd Offeiriadaeth yr Holl Saint.
Taranodd o'r newydd yn erbyn "Latin, Logic, a Gentility% a "balchder baboonaidd" yr Offeiriadaeth.
Yr oedd cyhuddiad o ragrith yn erbyn yr offeiriadaeth ar wefusau Hughes byth a beunydd yn y cyfnod hwn.
Cymerodd ofal i ddewis yr un nifer o bobl o'r tair urdd uchaf yn nhrefn yr Eglwys, hynny yw, yr offeiriadaeth, y ddiaconiaeth a'r is-ddiaconiaeth.
Ar ôl ymddangosiad y Llyfrau Gleision, polareiddiwyd y ddadl, ac er bod nifer o offeiriaid yn Gymry gwladgarol, a rhai ymdrechion dilys ar droed gan yr Eglwys er ceisio gwasanaethu'r Cymry yn yr ardal ddiwydiannol, yr oedd offeiriadaeth Eglwys Loegr fel corff wedi colli pob cydymdeimlad gan yr Ymneilltuwyr.