Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

offeiriaid

offeiriaid

Ond erbyn y ganrif ddilynol yr oedd yr hen ddelfrydiaeth yn pallu a'r ymosodiadau yn enwedig o du'r offeiriaid secwlar - yn amlhau.

Daeth aelwyd groesawgar Ceri yn ganolbwynt pwysig i'r offeiriaid llengar.

Er ei fod yn offeiriad yn yr Eglwys Babyddol, yr oedd yn ŵr priod, fel llawer iawn o offeiriaid eraill yr oes yng Nghymru.

Eglwys Loegr yn pleidleisio i ganiatáu merched i fod yn offeiriaid.

Ni châi gwragedd fynd i brifysgol na bod yn offeiriaid nac yn feddygon.

Ar ôl pymtheng mlynedd yn gweithio yn El Salvador gydag offeiriaid Gwyddelig, roedd tinc y Sbaeneg a'r Wyddeleg i'w clywed yn gymysg â'i hacen Gymreig.

Davies, Llanelli (Brycheiniog) i ddangos 'gwrthuni ac anghysondeb tystiolaeth yr offeiriaid ac anwireddau'r adroddiad'.

Cymdeithasau cenedlaethol oedd y Cymdeithasau Taleithiol, cymdeithasau lleol oedd rhai'r Cymreigyddion; a thra denai'r Cymdeithasau Taleithiol eu cemogaeth yn bennaf o blith yr offeiriaid a haenau uchaf cymdeithas, roedd y Cymreigyddion yn fwy 'eciwmenaidd' yn grefyddol ac yn gymdeithasol.

Ond os cynhyrfwyd y protestwyr gan sylwadau'r offeiriaid lleol, gwelent hefyd fod y Dirprwywyr ar fai oherwydd cu dull o gasglu tystiolaeth a'r modd yr aethant ati i weithredu cyfarwyddiadau'r Llywodraeth.

Tebyg mai o blith y gwŷr rhyddion y dôi'r rhan fwyaf o'r offeiriaid plwyf.

Gan chwarae ar y gair Maynooth, sef coleg Gwyddelig ar gyfer hyfforddi offeiriaid Pabyddol, galwodd rhywun Littlemore yn Newmanooth.

Er gwaethaf yr holl Seisnigrwydd, yr oedd yn yr Eglwys Wladol yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf nifer o offeiriaid a oedd yn fawr eu gofal dros y diwylliant Cymraeg ac a ymdrechai i Gymreigio bywyd yr Eglwys.

Roedd ffurf yr offeren yn wahanol ac roedd yr offeiriaid yn rhydd i briodi pe dymunent.

Nid ar gyfer yr offeiriaid yn unig y copi%wyd y rhain; ymddengys fod cryn ddiddordeb ynddynt ymhlith gwyr a gwragedd lleyg yn ogystal.

Yn yr oes honno nid oedd gwybodaeth fanwl o gynnwys y Beibl yn beth cyffredin hyd yn oed ymhlith offeiriaid.

Yn y plwyfi hyn, ymddiriedwyd y dasg o weinyddu anghenion y plwyfolion i'r offeiriaid plwyf.

Gwyddai Ieuan Gwynedd fod nifer o offeiriaid eglwysig yn cribo i lawes Lingen, Symons a Johnson, ac er ei fod yn fawr ei ofid yn sgil marwolaeth ei wraig a'i fab, aeth ati i gasglu ystadegau ynglŷn ag enwadau crefyddol yr ardaloedd glofaol.

Rhys Stephen (Gwyddonwyson) gweinidog amlwg ym Manceinion a chefnogwr brwd i Ieuan Gwynedd a oedd yn hanu o Dredegar - fe ystyriwyd offeiriaid sir Fynwy hefyd yn fradwyr ar ôl i'w tystiolaeth i'r Comisiwn gael ei chyhoeddi.

Wrth i'r mudiad gynyddu, lluosogai'r seiadau ar draws y wlad a'r rheini'n galw am eu bugeilio gan na fynnai'r offeiriaid plwyf wneud dim â hwy.

Ond ymrôdd hefyd i wella safon addysgol clerigwyr ei esgobaeth, a rhan o'r ymroi hwnnw oedd ei ymgyrch i sefydlu coleg i hyfforddi darpar offeiriaid yn Llanbedr Pont Steffan.

Y gwragedd cyntaf yn cael eu hordeinio yn offeiriaid yn yr Eglwys yng Nghymru.

Cameron Peddie am y modd y daeth ef i gredu nad gwaith ar gyfer offeiriaid a gweinidogion yn unig yw arddodi dwylo ond gweithred i bob un a gred â'i holl galon yn yr Arglwydd Iesu Grist.

A barnu bod modd atgynhyrchu copi%au ohono'n gyfleus, anodd credu y buasai offeiriaid cyffredin yr oes ryw lawer yn gallach o'u cael.

Ond fel ysgolhaig a hynafiaethydd, gwelai werth yn yr iaith er ei mwyn ei hun hefyd, a rhoddodd gefnogaeth frwd i'r offeiriaid hynny a geisiai hyrwyddo'r Gymraeg a'i diwylliant.

Nid oes ryfedd felly bod 'cenedl' a 'brenhiniaeth' (neu 'teyrnas', fel y cyfieithir yr un gair weithiau) yn ymddangos yn gyfochrog yn y Beibl, ac i bob pwrpas yn cael eu defnyddio fel cyfystyron - "chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid ac yn genedl sanctaidd" Ymddengys i Israel, o sylwi ar y cenhedloedd oddi amgylch, ganfod eu bod o ran eu trefn gymdeithasol yn deyrnasoedd neu'n freniniaethau, a daeth felly i ystyried meddu brenin fel un o nodau cenedligrwydd.

Ochr yn ochr â'r offeiriaid 'secwlar' hyn - hynny yw, y rhai a arhosai yn y 'byd' er mwyn gofalu am y plwyfi - yr oedd dau fath o wŷr eglwysig a elwid yn 'grefyddwyr'.

Hwy oedd y 'cenedlaetholwyr diwylliannol' ymhlith offeiriaid yr Eglwys yng Nghymru, a bu Thomas Burgess yn gefn pwysig iddynt.

Yn arbennig, yr oedd y darnau hynny a ddyfynnwyd ar ddechrau'r bennod hon, ynghyd â'r hyn a ddywedodd nifer o offeiriaid lleol yn eu tystiolaeth, wedi eu synnu.

Cofiwch am stori'r dderwen a'r brwyn." Roedd y Groegiaid wrth eu boddau yn clywed stori%au ac yn aml iawn roedd stori%au yn darlunio rhyw agwedd ar fywyd yn cael gwell gwrandawiad na phregethau yr offeiriaid ac areithiau'r gwleidyddion.

Ar ôl ymddangosiad y Llyfrau Gleision, polareiddiwyd y ddadl, ac er bod nifer o offeiriaid yn Gymry gwladgarol, a rhai ymdrechion dilys ar droed gan yr Eglwys er ceisio gwasanaethu'r Cymry yn yr ardal ddiwydiannol, yr oedd offeiriadaeth Eglwys Loegr fel corff wedi colli pob cydymdeimlad gan yr Ymneilltuwyr.